Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Gwasanaeth Coffa Blynyddol Sul y Blodau’n dychwelyd i Amlosgfa Margam yn 2023

15 Mawrth 2023

Hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot atgoffa preswylwyr fod y Gwasanaeth Sul y Blodau blynyddol ar gyfer y rheiny a amlosgwyd yn Amlosgfa Margam yn ailddechrau.

Gwasanaeth Coffa Blynyddol Sul y Blodau’n dychwelyd i Amlosgfa Margam yn 2023

Eleni, arweinir y gwasanaeth gan y Tad Ben Andrews o Eglwys St Theodore, Port Talbot, a’r côr gwadd fydd Côr Serenata (Cyfarwyddwr Cerdd, Matthew Lewis).

Yr organydd fydd Mair Jones.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau yn Amlosgfa Margam am 3pm ar Sul y Blodau, 2 Ebrill, 2023.

Yn flynyddol, rydym wedi bod yn cynnal Gwasanaeth Coffa ar y diwrnod hwn i gofio’r rhai a amlosgwyd yn Amlosgfa Margam, ond mae bwlch wedi bod oherwydd pandemig Covid-19 ers 2019.

Bellach, hoffai’r cyngor a’r Tad Andrews groesawu’n ôl unrhyw un a hoffai gymryd rhan yn y seremoni flynyddol hon.

Rhannwch hyn ar:
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT