Datganiad I'r Wasg
Cynigion Cronfa Codi’r Gwastad y DU ym Mharc Gwledig Ystâd Gnoll yn mynd i ymgynghoriad
This article is more than 5 months old
31 Mawrth 2023
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn holi barn preswylwyr ac ymwelwyr am eu barn am gynigion i fuddsoddi yn nodweddion treftadaeth a chyfleusterau i ymwelwyr ym Mharc Gwledig Ystâd Gnoll dros y ddwy flynedd nesaf.
Cyflwynwyd y cynnig i dderbyn cyllid gerbron Llywodraeth y DU yn ddiweddar fel rhan o’r cyfleoedd ar gyfer Codi’r Gwastad.
Ymysg cynigion yn y parc mae buddsoddi yn y ganolfan ymwelwyr i wella’r cynnig arlwyo cyffredinol, a gosod darpariaeth chwarae meddal dan do, agor Selerydd Tŷ Gnoll fel profiad deongliadol, ardal chwarae newydd yn y goedwig, llety hunan-arlwyo i ymwelwyr a sawl gwelliant i lwybrau ac adeiladau treftadaeth y parc.
Mae’r cynlluniau cysyniadol yn cael eu darparu er mwyn i bobl eu gweld drwy gyfrwng sesiwn picio i mewn yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Ystâd Gnoll ddydd Mercher 5 Ebrill 2023. Yn y sesiwn picio i mewn bydd modd i’r cyhoedd siarad gyda’r penseiri sydd wedi dylunio’r cynlluniau hefyd.
Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant: ‘Mae’r cynlluniau cyffrous hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau ym Mharc Gwledig Ystâd Gnoll, a hoffem annog preswylwyr ac ymwelwyr Castell-nedd Port Talbot i roi’u hadborth i ni am y cynlluniau arfaethedig hyn.”
Meddai’r Cynghorydd Martyn Peters, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio Economaidd a Chymunedol: “Bydd modd lawrlwytho manylion llawn y cynnig ar wefan Parc Gwledig Ystâd Gnoll www.gnollestatecountrypark.co.uk/investment wedi i’r sesiynau picio i mewn gael eu cynnal. Anogir preswylwyr ac ymwelwyr i roi’u hadborth am y cynigion drwy gyfrwng arolwg ar lein, y bydd modd mynd iddo drwy gyfrwng gwefan Parc Gwledig Ystâd Gnoll.”
Yn dilyn y sesiynau picio i mewn, bydd cynlluniau’r prosiect yn parhau i gael eu harddangos yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Ystâd Gnoll tan i’r ymgynghoriad gau ar 28 Ebrill 2023.