Datganiad I'r Wasg
Maer Newydd Castell-nedd Port Talbot yn Tyngu Llw ar gyfer 2023/24
25 Mai 2023
Mae’r Cynghorydd Chris Williams (De Bryncoch) wedi tyngu llw fel Maer newydd Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r Cynghorydd Williams wedi gweithio i Tesco ers 34 mlynedd ac mae hefyd yn gweithio fel gweithiwr cymorth gydag Ysbytai Annibynnol Rushcliffe.Tyngodd y llw yng Nghyfarfod
Blynyddol Cyffredinol Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot ddydd Mercher 24 Mai 2023, ble talodd deyrnged i’r gwaith rhagorol a wnaed dros y flwyddyn a aeth heibio gan y Maer a’r Faeres Ymadawol, y Cyng Robert Wood a Sylvia John, oedd wedi mynychu dros ddau gant o ddigwyddiadau yn ystod eu blwyddyn ddinesig brysur.
Mae Maeres Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2023/24 yn ffrind agos i deulu’r Cynghorydd Williams, Debbie Rees, sy’n ysgrifennydd mewn ysgol Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Tyngodd y Cyng Matthew Crowley (Dwyrain Sandfields) a Michelle Thomas lwon fel Dirprwy Faer a Dirprwy Faeres yn yr un seremoni.
Dywedodd Maer Newydd Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Williams wrth y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol: “Bydd y Faeres a minnau’n gwneud ein gorau glas i gynnal traddodiadau pwysig swydd y Maer, gan barhau â gwaith rhagorol y Maer Ymadawol, y Cynghorydd Robert Wood – bydd ei esgidiau e’n rhai mawr i gamu iddynt oherwydd yr ymrwymiad a ddangosodd yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, ynghyd â’r Faeres, Sylvia John. Fe weithiodd y ddau’n ddiflino i godi arian ar gyfer eu dewis elusennau ac maen nhw wedi ymro’i llwyr i’w cymuned.
“Yn bersonol, hoffwn ddiolch i Ms Debbie Rees am dderbyn swydd y Faeres, yn ogystal â diolch i bawb o’m teulu, ffrindiau a chydweithwyr a gefnogodd fy merch Siwan a minnau drwy gyfnodau anodd dros y blynyddoedd diwethaf hyn.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’m cyflogwyr a’m cydweithwyr yn Siopau Tesco ac Ysbytai Annibynnol Rushcliffe – maen nhw wedi bod yn gymwynasgar ac agored i helpu yn ystod fy mlwyddyn fel Dirprwy Faer, ac am eu parhad o ran cefnogaeth yn fy mlwyddyn Faerol.
“Rwyf wedi dewis dwy elusen ar gyfer fy mlwyddyn Faerol: y gyntaf yw Cronfa Harry a sefydlwyd ar ôl marwolaeth drasig Harry Patterson yn 2011. Yn ail rwyf wedi dewis Hosbis Tŷ Olwen yn Ysbyty Treforys, sy’n gwneud cymaint yn ein hardal leol dros gleifion a theuluoedd pobl sy’n dioddef o ganser a chlefydau sy’n cyfyngu ar fywyd.”