Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor yn ennill grant i helpu i wneud cartrefi Castell-nedd Port Talbot yn wyrddach

25 Mai 2023

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn grant i helpu cartrefi yn y fwrdeistref sirol ddod yn fwy ynni-effeithlon, gan helpu i leihau biliau ynni a chreu swyddi gwyrdd.

  [Insert date here] Cyngor yn ennill grant i helpu i wneud cartrefi Castell-nedd Port Talbot yn wyrddach

Bydd y grant gwerth £75,000 a gafwyd oddi wrth Sefydliad Elusennol MCS yn darparu prosiect fydd â’r nod o hybu a chefnogi cyfleoedd ‘ôl-osod’ lleol. Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda Choleg Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid eraill yn y rhanbarth.

Ystyr ôl-osod yw gwneud newidiadau i gartref sy’n bodoli’n barod, er mwyn helpu i leihau biliau ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan wneud y cartrefi’n fwy ynni-effeithlon.

Bydd y prosiect yn darparu ystod o weithgareddau gan gynnwys:

  • Sicrhau fod hyfforddwyr lleol wedi’u huwch-sgilio i ddarparu cyrsiau ôl-osod
  • Ymgysylltu â busnesau lleol
  • Cefnogi pobl i fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol
  • Ymgysylltu ag ysgolion lleol a myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth a hyder ym maes ynni adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel.
  • Cysylltu â sefydliadau hyfforddi lleol
  • Cynyddu gwybodaeth hyfforddwyr am ddatblygiadau yn y diwydiant
  • Helpu pobl i ennill y cymhwyster newydd ynghyd ag achrediad MCS

Bydd y prosiect yn dod â darparwyr addysg ar draws de orllewin Cymru at ei gilydd gyda chyrff a sefydliadau yn y sector perthnasol er mwyn sicrhau fod yr hyfforddiant a’r sgiliau’n adlewyrchu anghenion y diwydiant. Bydd yn pontio’r bwlch rhwng disgwyliadau’r diwydiant a’r hyn a gynigir gan ddarparwyr hyfforddiant lleol.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jenkins o Gyngor CnPT: “Wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud ein cartrefi’n fwy ynni-effeithlon.

“Bydd y grant hwn yn ein galluogi i hybu a chefnogi ôl-osod ar draws Castell-nedd Port Talbot, gan leihau ein hôl troed carbon.

“Drwy uwchsgilio hyfforddwyr ac ymgysylltu â busnesau ac ysgolion lleol, gallwn helpu i greu gwaddol cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau.”

Yn ôl David Cowdrey o Sefydliad Elusennol MCS: “Mae angen i ni gynyddu’r niferoedd o weithwyr sy’n meddu ar sgiliau i insiwleiddio tai a gosod nwyddau adnewyddadwy, wrth i ni daclo’r argyfyngau ynni a hinsawdd.

“Mae cynghorau lleol fel Castell-nedd Port Talbot ar flaen y gad wrth sicrhau fod rhaglenni hyfforddi addas ar gael i ddarparu swyddi yn y diwydiant ôl-osod. Bydd y cyllid rydyn ni’n ei ddarparu’n cefnogi Castell-nedd Port Talbot i ddatblygu’r gwaith hanfodol hwn i ddarparu swyddi gwyrdd i’r dyfodol, ac i leihau biliau ynni pobl.”

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth / Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Fel un o brif golegau Cymru, o ran sero net a chynaliadwyedd, rydym ni’n croesawu’r cyfle i weithio ar y prosiect hwn, drwy gyfrwng partneriaid rhagorol a’r Cyngor. Mae pob gwaith ymchwil yn awgrymu bod angen i ni ddatblygu’r sgiliau a’r ymwybyddiaeth am sero net ymysg cwmnïau a myfyrwyr, ac mae’r rhaglen hon yn gosod y sylfaen hwnnw.”  

Bydd y grant yn cefnogi amcanion prosiect Tai fel Pwerdai (HAPS) Bargen Ddinesig Bae Abertawe a thargedau Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Michelle Trigg ar m.trigg@npt.gov.uk .

Rhannwch hyn ar:
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT