Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor ac undebau’n apelio ar i bobl roi’r gorau i gam-drin ac ymddwyn yn ymosodol at staff tai sy’n gweithio mor galed

17 Tachwedd 2023

Mae staff adran dai Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy’n gweithio mor ddiflino i ddod o hyd i atebion llety ynghanol sefyllfa ddigartrefedd sy’n mynd yn gynyddol waeth, yn wynebu cynnydd mewn ymosodiadau a cham-drin, sy’n peri gofid.

Cyngor ac undebau’n apelio ar i bobl roi’r gorau i gam-drin ac ymddwyn yn ymosodol at staff tai sy’n gweithio mor galed

Er bod eu hymrwymiad i’r gymuned yn parhau i fod yn gryf, mae’u gwaith sensitif ac anodd yn cael ei wneud yn fwyfwy anodd gan gynnydd mewn bygythiadau ac ymddygiad sy’n codi ofn a anelir atynt – wyneb yn wyneb ac ar lein.

Mae digwyddiadau wedi cynnwys:

  • Trais corfforol a bygwth trais, a gofyn ‘ble mae aelod o staff yn byw’ er mwyn dod o hyd iddyn nhw.
  • Cleient yn dilyn ac yn aflonyddu ar aelod o staff
  • Trais ar lafar rheolaidd, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb
  • Aelod o staff yn derbyn bygythiad y byddai ‘eu coesau’n cael eu torri os bydden nhw’n ymweld eto’
  • Postiadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol – gyda geiriau cas yn cael eu hanelu at staff gan gynnwys ‘di-werth’, ‘diofal’, ‘ymennydd wedi marw’, ‘ddim yn gwneud eu gwaith’
  • Bygwth ymddygiad rhywiol anaddas

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r undebau llafur yn apelio ar y rhai sydd wedi cymryd rhan yn yr ymddygiad ymosodol a’r cam-drin hwn i stopio, am fod eu gweithredoedd yn tanseilio hwyliau’r staff tai ymroddedig yn fawr iawn.

Meddai Chele Howard, Pennaeth Tai a Chymunedau Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r sefyllfa ddigartrefedd bresennol yn deillio o sawl rheswm, gan gynnwys diffyg affwysol o lety fforddiadwy, sydd wedi rhoi pwysau enfawr ar awdurdodau lleol i ateb y galw cynyddol am atebion ym maes tai.

“Mae gweithwyr tai proffesiynol y cyngor wedi canfod eu hunain ar reng flaen y sefyllfa, ac maen nhw’n gweithio’n ddygn i sicrhau fod pobl a theuluoedd sydd mewn angen yn dod o hyd i lety diogel ac addas. Serch hynny, cafodd eu gwaith hanfodol ei darfu gan gynnydd brawychus mewn achosion o gam-drin ac ymddygiad treisgar.

“Ddylen nhw ddim gorfod dioddef bygythiadau, cam-drin na chasineb wrth iddyn nhw gyflawni’u dyletswyddau. Mae’n hanfodol ein bod ni oll yn cydnabod a gwerthfawrogi’r rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi pobl sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref, neu sy’n ddigartref yn barod.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n deall fod teimladau’n gryf yn ystod y cyfnod heriol hwn, ond hoffem ofyn yn barchus i aelodau’r gymuned ymgysylltu mewn sgwrs adeiladol, a gwerthfawrogi ymdrech ddiflino ein staff tai. Maen nhw’n gwneud eu gorau i ddarparu atebion tai i bobl mewn angen.”

Dywedodd Mark Fisher, Cadeirydd Undebau Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac ysgrifennydd cangen y cyngor: “Mae UNISON yn cefnogi safiad gweithwyr CBSCnPT i wrthod unrhyw ffurf o gam-drin neu drais, a byddwn ni’n cefnogi ein haelodau ar hyd pob llwybr cyfreithiol i erlyn.”

Ychwanegodd Arlene Chaves, Ysgrifennydd Cangen GMB Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Fydd GMB ddim yn goddef gweld aelodau’n cael eu cam-drin ar lafar neu’n gorfforol; os bydd hyn yn digwydd byddwn ni’n ceisio cyngor cyfreithiol i’n haelodau.”

Mae rhai aelodau o staff wedi gadael eu swyddi, hyd yn oed, oherwydd y cynnydd yn lefelau’r cam-drin y maen nhw wedi’i wynebu, gan ei gwneud hi’n anoddach fydd i’w cydweithwyr sy’n weddill helpu pobl sydd mewn angen o ran tai.

Dengys ystadegau raddfa eang y sefyllfa ddigartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot , gyda chynnydd o 341% mewn pobl mewn llety dros dro ar ôl Covid (203 ar 31 Mawrth 2023) o’i gymharu â chyn y pandemig (46 ar 31 Mawrth 2019).

Bu cynnydd hefyd o bron i 19% mewn pobl sy’n cyflwyno’u hunain fel digartref cyn ac ar ôl Covid (2,229 yn 2019/20 – 2,650 yn 2022/23) a chynnydd o 190% mewn aelwydydd sy’n cael mynediad i lety dros dro a chefnogaeth (267 yn 2018/19 o’i gymharu â 776 yn 2022/23).

Er gwaetha’r pwysau, llwyddodd staff i helpu 140 o aelwydydd ag anghenion tai i symud i’w llety’u hunain hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, ac mae cyfartaledd o 57% o aelwydydd sy’n ceisio help wedi cael eu hatal yn llwyddiannus rhad mynd yn ddigartref.

Dywedodd aelod o staff tai’r cyngor: “Yn aml iawn, mae’r cam-drin a’r bygythiadau a gweithredoedd treisgar eraill yn deillio o’r ffaith nad ydyn ni’n gallu cwrdd â disgwyliadau unigolion, yn hytrach na methu â chyflawni ein dyletswyddau statudol. Mae’n cael effaith hollol ddinistriol ar ysbryd a chalondid pawb.”

Rhannwch hyn ar:
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT