Canolfannau Ailgylchu
Rhaid eich bod wedi trefnu apwyntiad cyn ymweld â chanolfannau ailgylchu Llansawel neu Gymer.
Bydd trigolion CNPT yn ardal Cwm Tawe yn gallu defnyddio'r cyfleusterau CAGC yng Nghwmtwrch Isaf. Sicrhewch eich bod yn gwirio eu gweithdrefnau diwygiedig cyn ymweld.
Ffeindiwch Canolfan Ailgylchu
Dydd Llun, Dydd Iau a Dydd Gwener 9.00 – 5.00pm, Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10.00am – 4.00pm, Dydd Mawrth a Dydd Mercher Ar gau
Nid yw'r safle'n derbyn unrhyw faint o blastrfwrdd na gwastraff asbestos, ac mae hollti bagiau du yn weithredol
8.30y.b. i 5.00y.p., 7 dyddiau yr wythnos am 12 misoedd y flwyddyn
Rheolau ar gyfer ymweld yn ystod y clo
- Mae'n rhaid eich bod wedi trefnu apwyntiad (10 munud) gan ddefnyddio ein system archebu ar-lein cyn eich ymweliad
- Parchu staff tra byddwch ar neu'n aros i gael mynediad i'r safle
- Bydd angen prawf preswyliaeth
- Gofynnir i chi agor unrhyw fagiau du a threfnu'r cynnwys ar gyfer ailgylchu. Er mwyn arbed amser ar y safle, awgrymwn eich bod yn cael trefn ar eich gwastraff cyn i chi gyrraedd
- Sylwer - mae'r safle yn cau am 5yp. Os dych chi'n trefnu apwyntiad prynhawn yn hwyr, rhaid i chi gyrraedd ar amser. Ni chaniateir mynediad yn hwyr i chi.
- Nid oes angen i chi ein ffonio i ganslo archeb, cliciwch ar 'canslo eich archeb' sydd yn eich e-bost cadarnhau a gawsoch pan wnaethoch archebu'n wreiddiol.
Sut i drefnu apwyntiad
Trefnwch apwntiad ar gyfer y canolfannau ailgylchu ar-lein isod
Trefnwch apwntiadFaniau, Cerbydau codi ac ôl-gerbydau
Gall deiliaid tai sydd â faniau, cerbydau codi ac ôl-gerbydau echel ddwbl gael mynediad i ganolfannau ailgylchu yn Llansawel a'r Cymer. Rhaid i chi fod wedi trefnu trwydded ac apwyntiad wedi'i neilltuo ar eu cyfer. Gellir gwneud hyn isod.
- Gall ôl-gerbydau un echel ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu ond nid oes angen trwydded.
- Nid yw faniau "Tipper/flatbed" a faniau 7.5 tunnell fawr yn cael eu caniatáu ar y safle.
- Caniateir uchafswm o 12 trwydded y flwyddyn i breswylwyr (o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol) ar gyfer faniau, cerbydau codi ac ôl-gerbydau echel ddwbl
Gallwch drefnu apwyntiad a thrwydded fan yn yr un lle. Archebwch isod:
Trefnwch apwntiadBagiau Du
Gwnewch yn siŵr nad oes deunyddiau ailgylchadwy yn eich bagiau du.
Os ymwelwch ag unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu, gofynnir ichi agor unrhyw fagiau a threfnu'r cynnwys i'w ailgylchu os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Er mwyn arbed amser ar y safle, awgrymwn eich bod yn cael trefn ar eich gwastraff cyn i chi gyrraedd.
Rhaid eich bod wedi trefnu apwyntiad cyn ichi ymweld â chanolfannau ailgylchu Llansawel neu Gymer.
Cwestiynau Cyffredin
O ddydd Llun 21 Mehefin bydd trigolion yn gallu trefnu dau slot ymlaen llaw yn lle un, ar yr un diwrnod neu ar wahanol ddyddiau.
Nid oes angen i chi ein ffonio i ganslo apwyntiad, cliciwch ar 'canslo eich apwyntiad' yn eich e-bost cadarnhau a gawsoch pan wnaethoch drefnu.
Mae oriau agor arferol yn dal i fod yn berthnasol. Gellir dod o hyd i amseroedd agor ar-lein.
Gall deiliaid faniau, cerbydau codi ac ôl-gerbydau echel ddwbl gael mynediad i ganolfannau ailgylchu yn Llansawel a'r Cymer. Rhaid i chi fod wedi trefnu trwydded ac apwyntiad wedi'i neilltuo ar eu cyfer.
- Gall ôl-gerbydau un echel ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu ond nid oes angen trwydded.
- Nid oes angen trwydded ar gyfer ceir, jeeps (4x4s), faniau gwersylla, bysiau mini math teulu, MPV's, ôl-gerbydau un echel, neu faniau llogi.
- Nid yw faniau "Tipper/flatbed" a faniau 7.5 tunnell fawr yn cael eu caniatáu ar y safle.
Bydd staff ar y safle yn hapus i helpu.
Lleihau ciwiau ar y ffordd i’r fynediad.
Gallwch i brynu bagiau gwastraff gardd. Gall bagiau gwastraff gardd cael eu prynu ar-lein.
The council has a statutory duty to report all the waste and recycling we collect to Natural Resources Wales (NRW), further information can be found by visiting http://wastedataflow.org
If you are interested to know the quantities and destinations for your recycling, additional details can be found by visiting https://myrecyclingwales.org.uk/
Gwastraff Adeiladu
- Rwbel adeiladu yn unig
- Rwbel adeiladu cymysg (gan gynnwys cerrig, pren, eitemau ceramig etc.)
- Gwastraff ceramig yn unig
- Pridd
- Plaster a byrddau plaster
- Cynfasau to concrid
- Asbestos (dylid lapio dwbl haenau asbestos mewn cynfasau polythen)
Caniateir symiau bach o wastraff hyd at gyfwerth â 3 sach yr wythnos (maint cyfwerth â sach ddu gwastraff cartref gyffredinol), yr aelwyd i gael ei waredu am ddim yn unrhyw un o'r safleoedd - ddim yn cynnwys asbestos.
Bydd rhaid mynd â llwythi mwy i'r cyfleuster yn Ystâd Ddiwydiannol Llansawel, a thalu amdanynt, yn unol â'r amserlen ffioedd isod
Math o wastraff | Pris o fis Ebrill 2022 |
---|---|
Rwbel adeiladu yn unig |
£26.50 y dunnell |
Rwbel adeiladu cymysg (gan gynnwys cerrig, pren, eitemau ceramig etc.) | £78.50 y dunnell |
Gwastraff ceramig yn unig | £45 y dunnell |
Pridd | £26.50 y dunnell |
Plaster a byrddau plaster | £151.50 y dunnell |
Asbestos gan gynnwys cynfasau toad concrid (ddim yn cynnwys asbestos) (dylid lapio dwbl haenau asbestos mewn cynfasau polythen) |
£19.50 y cynfas/eitem (yn seiliedig at gynfasau 8tr x 3tr) |
Mae'r holl brisiau'n cynnwys TAW
Codir tâl am bwysau'r gwastraff fel a ganlyn (bydd terfyn uchaf pob band pwysau yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r taliad).
NID yw hyn yn cynnwys asbestos. Codir tâl am asbestos am bob cynfas/eitem.
- 0 i 100kg
- 100 i 250kg
- 250 i 500kg
- 500 i 1,000kg
Codir tâl am unrhyw swm sy'n fwy na 1,000kg mewn cynyddrannau 500kg.
Bydd y cyfleusterau pwyso ar gael rhwng:
- 8.30yb to 5.00yp dydd Llun i ddydd Gwener
- 8.30yb to 12.30yp ddydd Sadwrn a dydd Sul
Mae taliadau cardiau credyd/debyd ar gael rhwng 8.30am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.
Taliadau siec neu arian parod yn unig ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.