Hepgor gwe-lywio

Adfer Mawndiroedd

Croeso i'r gwefan Adfer Mawndiroedd

Discover Something Magical

TROSOLWG O’R PROSIECT

Mae ucheldir y llwyfandir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn dirlun sy’n llawn trysorau cudd. Yn hanesyddol, roedd hwn yn dir agored, yn weundiroedd, yn fawnogydd ac yn ddyffrynnoedd rhychog, serth wedi’u cerfio yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae pobl wedi defnyddio’r tirlun hwn am filoedd o flynyddoedd ac mae sawl nodwedd a llwybr hanesyddol, pwysig i’w gweld hyd heddiw. Dim ond ar ôl darganfod glo yn yr ardal y gwelwyd y patrwm defnydd tir hwn yn dechrau newid.

GWYBODAETH AM FAWNDIROEDD

Byddwch fwy na thebyg yn eu hadnabod yn syml fel ‘corsydd’, ond mae mawndiroedd yn gynefinoedd amrywiol sydd wedi ymffurfio dros filiynau o flynyddoedd, sy’n llawn carbon ac yn cynnal amrywiaeth toreithiog o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Maen nhw’n ardaloedd dyfrlawn, y ceir hyd iddynt yn aml yn yr ucheldir, ac maent yn cynnwys haen drwchus o bridd mawn a ffurfiwyd o ddeunydd planhigion sydd wedi pydru’n rhannol a chronni’n araf iawn dros amser. Nid yw’r rhan fwyaf o fawndiroedd yn tyfu mwy na 0.5–1mm y flwyddyn, sy’n golygu y gall gymryd mwy na 1,000 o flynyddoedd i ffurfio 1m o fawn!

CYMUNED

Mae Prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru yn darparu llawer o gyfleoedd i bobl leol yn y gymuned ymgysylltu â’u treftadaeth naturiol, ddiwylliannol a hanesyddol. Byddwn ni’n cynnal calendr cyffrous o weithgareddau a digwyddiadau addas i deuluoedd y gall cymunedau lleol ac ymwelwyr gymryd rhan ynddynt am ddim.

GWIRFODDOLI

Hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect? Mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, sy’n cynnwys ein helpu ni i gynnal arolygon bywyd gwyllt, cynorthwyo â thasgau cadwraeth a chefnogi digwyddiadau. Cynhelir diwrnodau gwirfoddoli ar hyd y flwyddyn fel arfer, er bod yr haf yn tueddu i fod yn fwy prysur.

News

Cadwch y newyddion diweddaraf o'r Prosiect yn gyfredol. Gallwch hefyd edrych ar weithgaredd prosiect trwy ein tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol ar Facebook a Twitter.

Digwyddiadau