Hepgor gwe-lywio

Gwyddoniaeth

Mae rhannu gwybodaeth yn allweddol er mwyn i’n mawndiroedd gael eu hadfer yn iawn ac mae gan y gymuned wyddonol rôl bwysig o ran nodi’r ffyrdd gorau o gyflawni’r gwaith hwn.

Mae adfer mawndiroedd yn bwnc llosg ar y funud ac mae rheswm da dros hynny. Mae dychwelyd systemau mawnog i’w cyflwr naturiol yn cyfrannu at yr ymdrechion i liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac yn mynd i’r afael â dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Mae rhannu gwybodaeth yn allweddol er mwyn i’n mawndiroedd gael eu hadfer yn iawn ac mae gan y gymuned wyddonol rôl bwysig o ran nodi’r ffyrdd gorau o gyflawni’r gwaith hwn.

Ar ein safleoedd mawndir, rydym yn gweithio ar safleoedd a fu gynt wedi’u coedwigo (sef ardaloedd lle bu coedwigaeth ar un adeg ond mae’r coed bellach wedi cael eu torri a’u gwerthu), ac er bod gwaith gwych wedi’i wneud eisoes, mae cwestiynau y mae angen eu hateb o hyd. Nodwyd y bylchau tystiolaeth mewn llenyddiaeth ymchwil a bydd prosiect y Mawndiroedd Coll yn gallu rhoi sylw i’r rhain trwy ein Strategaeth Fonitro. 

Bydd Prifysgol Abertawe, sy’n bartner allweddol yn y prosiect hwn, yn cynnal rhaglen helaeth o waith ymchwil ar ein safleoedd mawndir. Er mwyn mesur llwyddiant ein gwaith adfer ac ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ehangach, byddwn ni’n edrych ar y canlynol:

Ar ben hynny, byddwn ni’n cynnal arolygon rheolaidd o ran adar, ystlumod, infertebratau, y troellwr mawr, llygod pengrwn y dŵr a rhywogaethau pwysig eraill sy’n bridio ar ein safleoedd. Byddwn ni’n cynnal digwyddiadau hyfforddi a gwirfoddoli lle gallwch chi gyfrannu at yr agwedd hon o’r gwaith monitro, felly cofiwch gysylltu â  LostPeatlands@npt.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.