Hepgor gwe-lywio

Encouraging Wildflowers at Gwynfi Community Wild Space

Mae’n bosib bod trigolion Gwynfi wedi sylwi ar waith rheoli dolydd sydd wedi bod yn digwydd ym Man Gwyllt Cymunedol newydd Gwynfi yn ystod yr hydref eleni.

Mae contractwyr lleol wedi bod yn brysur yn ‘torri a chasglu’ ar y glaswelltir yma. Mae’r dull rheoli hwn yn torri ac yn gwaredu’r torion ar yr un pryd, gan leihau’r maetholion yn y pridd dros amser, a fydd yn annog blodau gwyllt brodorol i ffynnu. Mae hyn yn rhoi hwb i fyd natur ond hefyd yn cloi carbon mewn priddoedd iach.

Ers dechrau’r ugeinfed ganrif, mae’r Deyrnas Unedig yn unig wedi colli 97% o’i dolydd, ond mae’r dull hwn o ofalu am ein glaswelltir yn helpu i’w hadfer. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled y sir fel rhan o gynllun Caru Gwenyn CNPT

I’r rhai sydd heb glywed am y Mannau Gwyllt Cymunedol, mae’r rhain yn fannau lleol i bobl a natur lle byddwn ni’n gweithio fel rhan o Brosiect y Mawndiroedd Coll. Yn ogystal â safle Gwynfi, mae mannau gwyllt cymunedol yn y Cymer, Glyncorrwg, Blaenrhondda, Cwm-parc a Hendre’r Mynydd.

Byddwn ni’n mynd ati i reoli cynefinoedd ym mhob Man Gwyllt Cymunedol a gall pobl leol gymryd rhan trwy sesiynau gwirfoddoli, hyfforddiant adnabod bywyd gwyllt a sesiynau iechyd a lles. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os ydych am gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni ar lostpeatlands@npt.gov.uk. Byddem yn falch o glywed gennych!