Hepgor gwe-lywio

John Muir: Gall unrhyw un wirfoddoli!

Mae'r Prosiect Adfer Mawndiroedd yn ymdrechu i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ymwneud â'n rhaglenni gwaith. O ganlyniad, fel Swyddog y Gymuned ac Addysg ar gyfer y prosiect, pan ofynnodd fy merch, Eleri, sydd yn ei harddegau, "Beth alla’ i ei wneud yr haf hwn?", awgrymais y dylai hi wirfoddoli ar gyfer y prosiect a threulio'r haf yn cael gwared ar Jac y Neidiwr. Mae'n deg dweud nad oedd hi mor frwdfrydig am hyn ag yr oeddwn i'n gobeithio, er i mi addo iddi y byddai digon o de a bisgedi ar gael i ddiolch iddi am ei hymdrechion gwirfoddoli.

Ond, ar ôl gwneud ychydig o ymchwil ar-lein, roedd yn amlwg y byddai'r tasgau cadwraeth gwirfoddol a gynigiwyd gan y prosiect yn cyfrannu at elfen 'gadwraeth' Gwobr Ddarganfod Ymddiriedolaeth John Muir. Gyda'r disgwyliad llawer mwy cyffrous o weithio tuag at ddyfarniad cydnabyddedig, ysgogwyd Eleri i gyflwyno cynnig i Ymddiriedolaeth John Muir a phan dderbyniwyd ei chynnig, daeth yn wirfoddolwr gyda'r prosiect.  Mae Eleri'n rhannu’i phrofiadau isod.

"Nes i fi ddechrau gwirfoddoli ar gyfer y prosiect Adfer Mawndiroedd, doeddwn i erioed wedi ymweld â Chwm Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot na Chwm Rhondda Fawr yn Rhondda Cynon Taf, a doeddwn i’n bendant byth wedi gwirfoddoli i ymgymryd â thasgau cadwraeth o'r blaen! Ond yr haf diwethaf, rhoddais i gynnig ar y ddau a chefais amser gwych yn gwneud hynny.

Dysgais bod Jac y Neidiwr yn rhywogaeth anfrodorol a'i fod yn ymledol. Helpais i dynnu un planhigyn, sydd, er ei fod yn eitha’ pert, yn ymledu ar draws ardaloedd mawr o safle'r prosiect ac yn drech na rhywogaethau eraill o fflora. Cymerais ran mewn arolwg ystlumod a helpais Mike a Joey, Ecolegwyr y prosiect, i gyfri faint o weithiau yr hedfanodd ystlumod dros ardal; roedd yn brofiad anhygoel, cerdded ar hyd y traciau coedwigaeth yn y tywyllwch. Roeddwn i hefyd wedi helpu i gofnodi rhywogaethau mewn digwyddiadau Blitz Gwyllt i'r teulu a darganfyddais darianbryf diddorol iawn!

Mae'r cyfle i ymweld â lleoedd newydd, dysgu am gadwraeth a chwrdd â phobl newydd wedi fy helpu i gyflawni fy ngwobr John Muir.  Roedd cwblhau'r Wobr Ddarganfod a chymryd rhan mewn gwirfoddoli wedi cefnogi fy nghais i'r coleg i astudio lefel Uwch. Byddwn i’n bendant yn annog pawb i roi cynnig ar wirfoddoli!"

Os hoffech drafod ein cyfleoedd gwirfoddoli neu archwilio sut y gallant fod o fudd i'ch nodau personol, cysylltwch â ni. Mae ein tudalen Digwyddiadau yn amlinellu'n holl gyfleoedd gwirfoddoli, felly galwch heibio i gwrdd â'r tîm.

Gan Sarah Reed (Swyddog Cymuned ac Addysg Adfer Mawndiroedd)