Cefnogaeth Treth y Cyngor
Os oes angen cymorth neu gyngor ar unrhyw un mewn perthynas â Budd-dal Tai a / neu Gymorth Treth y Cyngor ffoniwch 01639 686838 (9.30am – 4.30pm) neu e-bostiwch housing.benefits@npt.gov.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn
Pwy all wneud cais?
Gallwch fod yn gymwys am Gefnogaeth Treth y Cyngor os ydych yn ennill incwm isel. Ni allwch hawlio os oes gennych arbedion o dros £16,000 oni bai eich bod dros 60 oed ac yn derbyn yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn.
Gallwch hawlio Cefnogaeth Treth y Cyngor os ydych yn gweithio.
Bydd swm y budd-dal y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar:
- gyfanswm eich incwm wythnosol;
- cyfanswm eich arbedion;
- faint o blant dibynnol sydd gennych; a
- faint o bobl annibynnol sy'n byw gyda chi a'u hincwm hwy.
Mwy o wybodaeth: Arweiniad i Gefnogaeth Treth y Cyngor
Sut i wneud cais am Gefnogaeth Treth y Cyngor
Dych chi'n gallu defnyddio'r ffurflen ar-lein isod, neu ffonio'r Adran Budd-daliadau ar 01639 686838 (9.30am – 4.30pm).
Cais i Cefnogaeth Treth y Cyngor