Datganiad I'r Wasg
-
Ni fydd newidiadau arfaethedig i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn mynd rhagddynt13 Tachwedd 2024
Ni fydd newidiadau i'r ffordd mae gwastraff yn cael ei ailgylchu yng Nghastell-nedd Port Talbot ar y blaen nawr yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
-
1,800 o blant yn canu croeso i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 202511 Tachwedd 2024
I ddathlu chwe mis i fynd tan Eisteddfod yr Urdd 2025, mae 1,800 o blant ardal yr Eisteddfod wedi cyd-greu ‘Cân y Croeso, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr’ gyda’r cyfansoddwyr Huw Chiswell a Bronwen Lewis.
-
Gwahodd preswylwyr i drafod dewisiadau anodd y gyllideb wyneb yn wyneb gydag arweinwyr cyngor05 Tachwedd 2024
Unwaith eto, bydd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y Cynghorydd Steve Hunt, a’i Gyd-aelodau Cabinet, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phreswylwyr i drafod y gwasgfeydd ariannol parhaus.
-
Gwasanaethau a gorymdeithiau Sul y Cofio yn nhrefi Castell-nedd a Phort Talbot31 Hydref 2024
Bydd gwasanaethau a gorymdeithiau blynyddol Sul y Cofio’n digwydd ym Mhort Talbot a Chastell-nedd ddydd Sul, Tachwedd 10, 2024.
-
Ymgyrch Amlasiantaeth yn Defnyddio Hysbyseb Facebook yn y Frwydr yn Erbyn Cludwyr Gwastraff Didrwydded29 Hydref 2024
Mae Swyddogion Gorfodi Gwastraff, Trwyddedu a Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymryd rhan mewn ymgyrch amlasiantaeth i ddal cludwyr gwastraff didrwydded sy'n aml yn cyflawni troseddau tipio anghyfreithlon a llosgi gwastraff.
-
Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad y Cyngor yn Ennill Gwobr Fawreddog29 Hydref 2024
Mae Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill y Wobr Efydd fawreddog am Effaith Ragorol ar Addysg yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru 2024. Cyflwynwyd y wobr i gydnabod mentrau rhagorol y tîm sydd â'r nod o hybu lles meddyliol mewn lleoliadau addysgol ledled y sir.
-
Golau gwyrdd i Gynllun Darparu Teithio Llesol Castell-nedd Port Talbot28 Hydref 2024
Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu a chyhoeddi gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau y bydd pobl leol yn gwneud mwy o deithio ar droed, ar feic neu drwy ddefnyddio dulliau ar olwynion eraill o deithio llesol.
-
Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer darpar drawsnewidiad theatr a Sgwâr Dinesig25 Hydref 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer ei gynllun a gefnogir gan arian Llywodraeth y Du i ddiweddaru Sgwâr Dinesig canol tref Port Talbot a Theatr y Dywysoges Frenhinol gerllaw.
-
Digwyddiad rhad ac am ddim sy’n llawn antur yn talu teyrnged i’r Lluoedd Arfog ddoe a heddiw24 Hydref 2024
Bydd Gŵyl Dydd y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot yn digwydd rhwng 10am tan 4pm ddydd Sadwrn (26 Hydref) ym Mhort Talbot, gyda digonedd i’w weld a’i wneud dan do ac yn yr awyr agored yn ystod y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.
-
Cynnydd yn y Gwaith o Estyn Canolfan Gelfyddydau Pontardawe24 Hydref 2024
Mae cynnydd sylweddol yn digwydd i’r prosiect ymestyn a diweddaru sylweddol yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe, gyda’r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau. Mae’r prosiect, a ddechreuodd yn gynt eleni, yn trawsnewid y ganolfan yn lleoliad modern ar gyfer y celfyddydau ac adloniant, gyda sinema newydd â lle i 70 eistedd ynddi.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 8
- Tudalen 9 o 55
- Tudalen 10
- ...
- Tudalen 55
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf