Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Arweinydd y Cyngor yn croesawu rhyddhau miliynau i ddiogelu busnesau a gweithwyr cadwyn gyflenwi dur
    15 Awst 2024

    MAE Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt, wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i benderfyniad Llywodraeth y DU i ryddhau £13.5m ar unwaith er mwyn cefnogi gweithwyr a busnesau'r gadwyn gyflenwi y bydd penderfyniad Tata Steel i bontio i brosesau cynhyrchu dur gwyrddach yn effeithio arnynt.

  • Ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn Dathlu Llwyddiant Ysgubol yn eu Canlyniadau Safon Uwch
    15 Awst 2024

    Mae myfyrwyr ac athrawon Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot, sef y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig addysg ôl-16, yn cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau yn 2024.

  • Paratoadau wedi dechrau ar gyfer Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2024
    14 Awst 2024

    Mae gwaith cynllunio wedi dechrau ar gyfer Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2024.

  • Y Cabinet yn mabwysiadu Polisi Digwyddiadau newydd sy'n cynnwys Swyddfa Ffilm Castell-nedd Port Talbot
    12 Awst 2024

    Diolch i'w golygfeydd godidog ac amrywiol, ei thirweddau ysgubol a chysylltiadau o'r radd flaenaf ar ffyrdd a rheilffyrdd, mae ardal Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn gefndir i restr hir o raglenni teledu a ffilmiau llwyddiannus.

  • Y Cabinet yn cymeradwyo'r cam cyntaf tuag at ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio Canolfan Gymunedol a Menter yn y dyfodol
    09 Awst 2024

    Mae aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dechrau ar y broses o ddod o hyd i ffordd newydd o ddefnyddio Canolfan Gymunedol a Menter y Groes ym Mhontardawe.

  • Y Cyngor yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg
    08 Awst 2024

    Wrth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot baratoi i gynnal Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Gwledig Margam yn 2025, mae'r awdurdod wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2023/24.

  • Yr Arweinydd yn croesawu ymweliad llwyddiannus Clwb Criced Morgannwg â Maes y Gnoll yng Nghastell-nedd
    08 Awst 2024

    Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt, wedi croesawu ymweliad Clwb Criced Morgannwg â Chastell-nedd ar gyfer dwy gêm undydd a ddenodd filoedd o ymwelwyr.

  • Y cyngor yn cwblhau cynllun dau gam gwerth £3.5m i liniaru llifogydd yng Nglyn-nedd
    06 Awst 2024

    Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd, sy'n werth £3.5m ac sydd wedi diogelu 251 o gartrefi a 23 o eiddo amhreswyl rhag llifogydd bellach wedi cael ei gwblhau.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhoi hwb i rwydwaith arloesi digidol gyda Chanolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd
    02 Awst 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o gyhoeddi bod y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) wedi cytuno i gynnal un o'r pyrth Rhwydwaith Ardal Eang Pellgyrhaeddol (LoRaWAN), sy'n rhan o Rwydwaith Arloesi Digidol ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ar ei safle 700 hectar ger Onllwyn.

  • Penodi Frances O'Brien yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot
    31 Gorffennaf 2024

    MAE CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT wedi penodi Frances O'Brien yn Brif Swyddog Gweithredol newydd i olynu Karen Jones a gyhoeddodd ei phenderfyniad i ymddeol yn gynharach eleni.

Rhannu eich Adborth