Safleoedd Ymgeisiol
Mae'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir Bellach ar agor: Hanner dydd 12 Rhagfyr 2024 tan Hanner dydd 6 Chwefror 2025.
Safleoedd Ymgeisiol – Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir
Yn unol â Chytundeb Cyflawni cymeradwy’r Cyngor ac yn rhan o’r cam paratoi cyn-adneuo, gwahoddwyd tirfeddianwyr, datblygwyr a phartïon eraill â diddordeb i enwebu ‘Safleoedd Ymgeisiol’ i’w cynnwys o bosib yn y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Castell-nedd Port Talbot (CDLlA).
Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol (CSY) yn nodi manylion y safleoedd sydd wedi’u cyflwyno i’r Cyngor i’w hystyried a’u cynnwys o bosib yn y CDLlA. Mae’r CSY hon, sydd wedi’i chyhoeddi ar gyfer yr ymgynghoriad cyn-adneuo (Strategaeth a Ffefrir), yn cynnwys y safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Alwad am Safleoedd yn 2022, yr Alwad am Safleoedd yn 2023 a’r Alwad am safleoedd Capasiti Trefol yn 2023.
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol
Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol ei hun wedi’i strwythuro fel a ganlyn:
- Safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Alwad am Safleoedd yn 2022;
- Safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Alwad am Safleoedd yn 2023;
- Safleoedd a gyflwynwyd yn rhan o’r Alwad am safleoedd Capasiti Trefol yn 2023;
- Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol 2022;
- Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol 2023; ac
- Asesiad o Safleoedd Capasiti Trefol 2023.
Mae safleoedd wedi’u rhestru yn ôl eu Hardal Ofodol (e.e. Cwm Dulais). Oherwydd maint y ddogfen, mae wedi’i rhannu’n sawl adran:
Cynnig sylwadau ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol
Yn rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, gall partïon â diddordeb gynnig sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd gan ddefnyddio’n ffurflen ymgynghori ar-lein.
I weld lleoliad ein holl safleoedd ymgeisiol, edrychwch ar ein map rhyngweithiol.
Noder: ar yr adeg hon, nid yw cynnwys safle ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn awgrymu y caiff safle ei ddyrannu yn y CDLlA sy’n cael ei ddatblygu, ac nid yw’n awgrymu ychwaith unrhyw ffafriaeth ar ran yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â’i rinweddau.
Noder: yn unol â pharagraff 5.6.5 o’n Cytundeb Cyflawni, caiff unrhyw ddeisebau a dderbynnir eu cyfeirio at fanylion cyswllt y sawl sy’n trefnu’r ddeiseb. Ni anfonir cydnabyddiaeth at unigolion, ac ni chânt eu hychwanegu’n awtomatig i gronfa ddata’r ymgynghoriad.
Gellir cyflwyno sylwadau hefyd I ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod a:
- e-bostio sylwadau at ldp@npt.gov.uk; neu
- bostio sylwadau atom yn Yr Adran Polisi Cynllunio, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Castell-nedd SA11 2GG
Llawrlwythiadau
Cynnig Safle Ymgeisiol newydd - 2024
Os hoffech gyflwyno safle ymgeisiol newydd i ni, dylech gwblhau Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol Newydd atom drwy ein porth ymgynghori ar-lein.
Mae'r ymgeisiol yn nodi’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gennym i gynnal asesiad trylwyr. Mae’n bwysig, felly, eich bod yn cwblhau holl adrannau’r ffurflen.
Rhaid cwblhau ffurflen safle ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob safle. Os oes defnyddiau amgen yn cael eu cynnig ar gyfer yr un safle, bydd angen cyflwyno ffurflen safle ymgeisiol ar wahân ar gyfer pob defnydd.
Er mwyn eich cynorthwyo i gyflwyno’r ffurflen, mae’r Cyngor wedi cynhyrchu’r canlynol:
- Methodoleg Asesu a Nodyn Canllaw ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol
- Atodiad Strategaeth a Ffafrir 2024
- Nodyn Canllaw Dichonoldeb
- Cwestiynau Cyffredin
- Map rhyngweithiol o’r cyfyngiadau
Mae cyfres o fideos ‘sut i’ wedi’u cynhyrchu i helpu i gyflwyno gwybodaeth hyfywedd (Saesneg):
Ble i weld y dogfennau hyn yn bersonol
Mae’r dogfennau hyn hefyd ar gael i’w gweld yn y lleoliadau canlynol:
- Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
- Canolfan Ddinesig Port Talbot, SA13 1PJ
- Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd, SA11 2GG
Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2023
Cynhaliwyd Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2023 rhwng 6 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2023.
Mae cyflwyniadau am safleoedd ymgeisiol a wnaed yn briodol wedi’u hychwanegu at y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol uchod.
Astudiaeth Capasiti Trefol 2023
Mae Astudiaeth Capasiti Trefol yn asesu’r potensial ar gyfer datblygiadau newydd mewn aneddiadau. Yn rhan o’r dystiolaeth gefndir i’r CDLlA, cynhaliwyd Astudiaeth Capasiti Trefol yn 2023 a hynny ochr yn ochr â’r Alwad am safleoedd Ymgeisiol yn 2023. Mae’r cyflwyniadau hyn hefyd wedi’u hymgorffori yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol a nodir uchod, o dan y teitl ‘Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2023’.
Galwad am Safleoedd Ymgeisiol 2022
Yng ngwanwyn 2022 fe wnaethon ni wahodd datblygwyr, tirfeddianwyr a'r cyhoedd i gynnig safleoedd i’w datblygu fel safleoedd newydd, eu hailddatblygu neu eu diogelu yn y CDLlA.
Mae’r holl safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd wedi’u cynnwys yn y 'Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol'.
Ymgynghorwyd ar Safleoedd Ymgeisiol 2022 rhwng 21 Gorffennaf 2022 a 22 Medi 2022.