Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Edrych ar ôl eich iechyd meddwl a lles

Sut ydych chi'n teimlo?

Ffynnu

"Rwy'n gallu gwneud hyn"

  • Gweithredu fel arfer
  • Amrywiadau arferol yn eich hwyliau
  • Gwneud pethau'n ddidrafferth
  • Patrymau cwsg arferol
  • Yn actif yn gorfforol ac yn gymdeithasol
  • Hunanhyder arferol
  • Cyfforddus â phobl eraill

Os rydych chi'n ffynnu

Dan bwysau

"Mae rhywbeth o'i le"

  • Pigog, diamynedd
  • Nerfusrwydd, tristwch
  • Mwy pryderus
  • Oedi ac anghofio
  • Tyndra yn eich cyhyrau
  • Cael trafferth wrth gysgu
  • Cael trafferth wrth ymlacio
  • Syniadau ymwthiol
  • Diffyg egni

Os rydych chi'n dan bwysau

  • NPT Mind- cwnsela, cefnogaeth hawliau lles a grwpiau lles. 01639 643510
  • Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pob Ifanc- Adnoddau lles ar gyfer pobl ifanc
  • Young Minds- elusen iechyd meddwl plant a phobl ifanc
  • Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L.- Gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol. 0800 132 737 neu neges destun sy'n cynnwys text HELP at 81066 
  • Cyfeillion Cymunedol CGC - cyfeillgarwch a chefnogaeth yn y gymuned. 01639 631246
  • Tim am y teulu- Cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd yn gynnar pan fydd problem yn codi- 01639 686802​

Cael trafferth

"Ni allaf barhau â hyn"

  • Ofn parhaus, dicter, pryder, panig, tristwch, teimlo'n ddagreuol, diffyg hunan-werth
  • Synfyfyrdod
  • Anhawster wrth wneud penderfyniadau neu ganolbwyntio
  • Cwsg afreolaidd (cwympo i gysgu ac aros yn effro)
  • Teimlo'n encilgar
  • Rhoi triniaeth feddygol i'ch hunan e.e. bwyd, sylweddau

Os rydych chi'n cael trafferth

Mewn argyfwng

"Ni allaf oroesi hyn"

  • Trallod sy'n eich analluogi a diffyg swyddogaeth
  • Hunllefau neu ôl-fflachiau
  • Methu cysgu neu aros yn effro
  • Meddwl am hunan niweidio neu hunanladdiad
  • Gwylltio'n hawdd neu'n ymosodol
  • Teimlo'n ddideimlad, ar goll neu allan o reolaeth
  • Teimlo'n encilgar
  • Dibyniaeth ar fwyd, sylweddau etc

Os rydych chi'n mewn argyfwng

  • Mewn argyfwng, ffoniwch 999
  • Os nad yw'n bygwth bywyd ffoniwch y GIG ar 111 neu ewch i www.111.nhs.uk. Gall pobl sydd â phroblemau clyw ddefnyddio gwasanaethlaith Arwyddion Peydain GIG 111
  • I siarad â rhywun yn gyfrinachol ffoniwch Y Samariad am ddim ar 116 123 neu ewch i samaritans.org
  • I gael cefnogaeth ar gyfer argyfwng trwy neges destun 24/7 yn ddienw, anfonwch neges destun sy'n cynnwys "SHOUT" i 85258 neu ewch i giveusashout.org
  • Prosiect Noddfa - cefnogaeth ymarferol, therapiwtig a chyfannol - 01792 816 600
  • Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda materion iechyd meddwl nawr ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos. Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd â phryder iechyd meddwl, gan gynnwys perthnasau sydd angen cyngor. Galwch 111 Mae Opsiwn 2 yn rhedeg 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth neu gyfeirio fel y bo'n briodol. Bydd galwyr yn cael eu cefnogi gan glinigwyr hyfforddedig sy'n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gan gynnwys nyrsys iechyd meddwl, ymarferwyr lles seicolegol a therapyddion galwedigaethol.