Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Pobl yn gyntaf

O’r diwrnod cyntaf un, cewch eich derbyn a’ch gwerthfawrogi yn Nhîm CPT. Waeth pwy ydych chi, o ble rydych chi’n dod na beth yw eich cred, rydyn ni am i chi ddod â’ch hunan yn gyfan i’r gwaith.

Mae angen i ni sicrhau fod ein gweithlu’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn, felly mae amrywiaeth cydraddoldeb a chynhwysiant yn bethau rydyn ni’n eu cymryd o ddifri calon er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib i’n preswylwyr..

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u cefndir, eu hunaniaeth neu’u profiadau bywyd ac mae gennym ymrwymiad gwirioneddol i gydraddoldeb cyfle i bawb.

Ymunwch â ni ac fe welwch amgylchedd sy’n eich annog i fod yn chi eich hun, lleisio eich barn a dylanwadu ar benderfyniadau drwy ddod â’ch safbwynt unigryw i’r gwaith.

Mwy am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Nhîm CPT

Cyflogwr ‘Hyderus gydag Anabledd’

Rydyn ni wedi ymrwymo i symud rhwystrau i’r gwaith i bobl ag anableddau, ac rydyn ni’n falch o gael statws Cyflogwr Hyderus Gydag Anabledd. Rydyn ni’n gweithredu system cyfweliad wedi’i warantu sy’n golygu fod yn rhaid gwahodd ymgeiswyr sy’n anabl ac sy’n ateb y meini prawf hanfodol a nodir ar fanyleb y person i gyfweliad, waeth beth fo natur eu hanabledd.

Polisi dim goddefgarwch i Hiliaeth

Mae Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i hyrwyddo cytgord a chydraddoldeb hiliol yn y gweithle ac yn ein cymunedau. Croesawn yr amrywiaeth ethnig mewn cymunedaua diwylliannau yn y wlad. Drwy ymrwymo i bolisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru, sefwn yn erbyn pob ffurf ar hiliaeth a hyrwyddwn weithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi’r hawl i bob unigolyn, waeth be fo’i hil, ei grefydd, neu ei dreftadaeth ethnig, deimlo’n ddiogel, yn werthfawr ac yn gynwysedig.

Gallwch hefyd weld Sero Hiliaeth Cymru Castell-nedd Port Talbot - Datganiad o Fwriad

Cyflogwr ‘Chwarae Teg’

Rydyn ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhywedd a chynhwysiant yma yn Nhîm CPT. Rydyn ni’n Gyflogwr Chwarae Teg / Fair Play gyda Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Rhywedd clir. Bu i ni ennill Gwobr Arian am Amrywiaeth Rhywedd gan Chwarae Teg i gydnabod ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth o ran recriwtio, cadw a dyrchafu menywod yn y gweithle.

Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

Cynllun Cyfweliad Gwarantedig ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

I fod yn gymwys i gael cyfweliad gwarantedig, rhaid i’r ymgeisydd:

  • fodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd; a
  • bod yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd ac o fewn 12 wythnos i’r dyddiad rhyddhau; neu
  • mae’r lluoedd arfog yw’r cyflogwr tymor hir olaf, gyda dim mwy na 3 blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad rhyddhau
Cynllun Cydnabod Cyflogwyr - Gwobr Arian 2023

Hybu iechyd a llesiant

Rydyn ni’n gweithio’n galed i greu diwylliant ble byddwn ni’n gofalu amdanom ein hunain a’n gilydd. Dyma le ble gallwch fod yn chi eich hun a chael eich derbyn, waeth beth rydych chi’n ei oddef.

Rydyn ni wedi cymryd Llw Cyflogwr Amser Newid Cymru i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethau a wynebir gan bobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae gennym Grŵp Iechyd a Llesiant i staff a phorth staff ar lein i alluogi staff i gael gafael ar gymorth, cefnogaeth ac adnoddau ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant.

Ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu polisi ‘Absenoldeb Diogel’ i staff sy’n cael eu heffeithio gan unrhyw fath o Gam-drin Domestig, gan roi cyfle iddyn nhw gael mynediad i wasanaethau cefnogi, cyngor cyfreithiol, lle amgen i fyw neu help meddygol mewn dull diogel, a gynlluniwyd.

Beth rydyn ni’n ei gynnig

Helpu pobl i mewn i waith

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i helpu ystod o bobl i mewn i waith. O leoliad gwaith a chynlluniau prentisiaeth i bobl ifanc nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) i gynlluniau gwarantu cyfweliad i gyn-filwyr a all fod yn cael trafferth addasu i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog, mae gennym lwybrau i mewn i waith i gefnogi pawb.

Mynediad i waith

Cefnogi gweithio hyblyg

Gall ein polisi gweithio hyblyg helpu pobl ddychwelyd i’r gwaith, lleihau’r bwlch tâl rhyw, helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n mynd a dod i aros mewn gwaith a helpu gofalwyr i gydbwyso’u cyfrifoldebau gweithio a gofalu. Mae gennym ystod o ddewisiadau o oriau hyblyg a rhannu swyddi i gyfle i leihau oriau a saib gyrfa.

Beth rydyn ni’n ei gynnig

Dysgu gydol oes

Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad sy’n galluogi pob un ohonom i fod y gorau allwn ni. Mae dysgu a datblygu’n rhan o bopeth wnawn ni, gan eich galluogi i ffynnu yn eich gyrfa gydag ystod o gyfleoedd dysgu ysbrydoledig ac amrywiol. Mae ein Hadran Hyfforddi a Datblygu’n gweithio gydag ystod o bartneriaid fel Dysgu GIG@Cymru a Highfield Qualifications i gynnu ystod o gyfleoedd hyfforddi cynhwysol i bob aelod o staff, gan gynnwys rhai nad ydynt wedi’u lleoli yn y swyddfa

Dod o hyd i swydd