Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymgynghoriad Cyllideb Ddrafft 2025/2026

Rydyn ni’n ceisio barn am gyllideb ddrafft Castell-nedd Port Talbot (CnPT) ar gyfer 2025/2026. Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd hyd at 31 Ionawr 2025.

Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch rannu eich barn am sut mae’r cyngor yn bwriadu parhau i ddarparu dros 400 o wasanaethau cyhoeddus hanfodol ac ar yr un pryd gau bwlch yn y gyllideb a amcangyfrifir ei fod yn £15 miliwn.