Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y bwlch yn y gyllideb

Daw arian y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:

  • grantiau Llywodraeth Cymru
  • Treth y Cyngor

Dyma sut y lluniwyd cyllideb 2024/25:

Cyllideb y Cyngor 2024/25 Cyllideb y Cyngor 2024/25

Setliad Amodol Llywodraeth Leol

Awgrymodd Setliad Amodol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024, y bydd CnPT yn derbyn cynnydd mewn cyllid o 4.4% y flwyddyn nesaf – y degfed uchaf yng Nghymru. Er bod croeso i’r cynnydd, nid yw’n agos at fod yn ddigon i fynd i’r afael â chostau gwasanaethau.

Nid yw CnPT ar ei ben ei hunan yn hyn. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n amcanu fod cynghorau Cymru’n wynebu bwlch cyllido rhyngddynt o ryw £560m y flwyddyn nesaf. Cyfanswm y cynnydd amodol o ran arian sy’n dod oddi wrth Lywodraeth Cymru yw £253m – llai na hanner y swm sydd ei angen. 

Ffactorau eraill

Ar ôl dros ddegawd o doriadau mewn telerau go iawn, mae gosod cyllideb gytbwys heb orfod gwneud toriadau sylweddol i wasanaethau na swyddi’n dod yn fwy anodd bob blwyddyn.

Yn ogystal â chyllid annigonol, mae sawl ffactor arall wedi cyfrannu dros y blynyddoedd diweddar i gyllideb heriol arall:

  • Mae gwaddol Covid wedi gadael mwy o bobl angen help oddi wrth wasanaethau cymdeithasol a digartrefedd, ac mae mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu hamlygu ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a /neu angen help ychwanegol i fynychu’r ysgol a chyfranogi yn eu haddysg.
  • Achosodd y rhyfel yn Wcráin i brisiau ynni godi, ynghyd â chynnydd serth mewn chwyddiant. Er bod chwyddiant bellach islaw 2%, mae prisiau nwyddau, gwasanaethau ynni, a chyfraddau llog, dal yn uchel.
  • Mae’r argyfwng costau byw’n parhau, gyda nifer o’n preswylwyr a busnesau lleol yn profi cyni ariannol.
  • Mae’r cyngor yn ymgysylltu ag ystod o gyfleoedd datblygu economaidd o bwys, ac mae’n bartner allweddol yn yr ymateb i’r newidiadau yn Tata Steel UK Ltd, ond mae effaith gynyddol hyn yn heriol dros ben.

Cynnig

Ceir dros 70 cynnig i helpu i gau’r bwlch yn y gyllideb, gyda gwerth bras o £8.633m.

Gallwch weld rhestr lawn o’r cynigion yn adroddiad y Cabinet hwn (Yn Saesneg).

Mae’r rhain yn dod o dan sawl thema, gan gynnwys:

  • gwneud ceisiadau am fwy o arian grant a gwrthosod rhai costau (e.e. staffio) yn erbyn grantiau a chyllid arall
  • parhau i resymoli adeiladau’r cyngor.
  • adfer costau llawn ar gyfer rhai gwasanaethau a ddarperir i sefydliadau eraill.
  • cynyddu incwm drwy ffioedd a thaliadau, ac ysgwyddo rhai gwasanaethau y telir amdanynt.
  • adolygu sut y darperir rhai gwasanaethau.
  • adolygu cytundebau

Ymgynghorwyd ar nifer o’r cynigion yn barod, a’u cymeradwyo i’w gweithredu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae rhai cynigion eraill fel y rheiny sy’n ymwneud ag ailgynllunio gwasanaethau, a fyddai’n destun ymgynghoriadau annibynnol cyn y gwnaed unrhyw benderfyniad.

Ni fydd cynigion gweinyddol eraill yn cael dim effaith ar y ddarpariaeth o ran gwasanaethau yn y tymor byr, felly nid ydynt yn rhan o’r ymgynghoriad. Yn eu plith mae:

  • lleihau niferoedd staff (e.e. peidio â llenwi rhai swyddi gwag, diswyddo gwirfoddol ac ati)
  • defnyddio arian grant
  • lleihad naturiol yn y galw am rai gwasanaethau ac ati.

Dweud eich dweud

Rydyn ni’n ymgynghori ar y cynigion hyn tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, a byddem ni’n gwerthfawrogi clywed eich barn.