Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyllideb Drafft - pwyntiau allweddol

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gynghorau osod cyllideb gytbwys. Allwn ni ddim â gwario mwy nag a dderbyniwn, felly rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o gau’r bwlch yn y gyllideb.

Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i amlygu strategaethau i dorri gwariant a chynyddu incwm, ond hefyd i geisio lleihau’r effaith ar wasanaethau’r cyngor a threthdalwyr.

Ar 2 Hydref 2024, cytunodd y Cabinet i ystyried amrywiaeth eang o gynigion ar gyfer arbedion, gan gynnwys:

  • newid i gasglu gwastraff bob tair wythnos, cael gwared ar finiau olwynion a dechrau codi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd (a fyddai'n arbed £739k yn ôl y cynigion gwreiddiol)
  • lleihau niferoedd staff glanhau strydoedd (a fyddai'n arbed £379k yn ôl y cynigion gwreiddiol)
  • lleihau niferoedd timau atgyweirio systemau draenio a'r gyllideb cynnal a chadw priffyrdd (a fyddai'n arbed £210k yn ôl y cynigion gwreiddiol)

Fodd bynnag, ar ôl gwrando ar adborth gan y cyhoedd yn ystod ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn yr hydref NID yw'r cynigion uchod yn cael eu hystyried mwyach.

Sut mae'r gyllideb yn cael ei gwario

Dysgwch fwy am sut mae'r gyllideb yn cael ei gwario.

Dweud eich dweud

Rydyn ni’n ymgynghori ar y cynigion hyn tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, a byddem ni’n gwerthfawrogi clywed eich barn.