Arian wrth gefn y Cyngor
Gofynnir yn aml i ni a ellir defnyddio arian wrth gefn y cyngor i gydbwyso’r gyllideb.
I gadw’r rheiny ar y lefel isaf a amlinellir yn y Polisi Arian wrth Gefn Cyffredinol (h.y. 4% o’r gyllideb refeniw net), prin yw’r cyfle i ddefnyddio arian wrth gefn cyffredinol i gefnogi cynigion cyllideb 2025-26 y cyngor.
Dweud eich dweud
Rydyn ni’n ymgynghori ar y cynigion hyn tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, a byddem ni’n gwerthfawrogi clywed eich barn.