Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Treth y Cyngor

Rydyn ni wedi bod yn chwilio am ffyrdd o dorri gwariant a / neu gynyddu incwm ble bynnag y gallwn.

Mae hyn yn cynnwys:

  • ystyried sut y gallem gynnal ein busnes
  • gwneud y defnydd gorau o arian grant
  • rhesymoli adeiladau’r cyngor
  • adolygu cytundebau
  • gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol er mwyn bod mor gost-effeithiol a hyblyg â phosibl

Rydyn ni hefyd yn parhau i gyflwyno ein hachos dros gyllid priodol gan Lywodraeth Cymru, ond mae cynyddu Treth y Cyngor yn dal i fod yn rhan anochel o gydbwyso’r gyllideb.

Cynnydd a gynigir

Wrth benderfynu faint o arian i'w rannu i gynghorau yn 2025-2026 mae Llywodraeth Cymru wedi tybio y bydd Treth y Cyngor yn codi 9.3% ar gyfartaledd ledled Cymru. 

Y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yw 7%.

Rydyn ni wedi cyfeirio at fwlch yn y gyllideb o ryw £15 miliwn. Heb y cynnydd arfaethedig o 7%, neu welliant yn yr arian a ddaw oddi wrth Lywodraeth Cymru, bydd angen gwneud cynigion pellach o ran arbedion a gostyngiadau posibl mewn gwasanaethau er mwyn gallu gosod cyllideb gytbwys.

Byddai cynnydd 7% yn Nhreth y Cyngor yn cyfateb i’r canlynol bob wythnos:

Band Treth y Cyngor Cynnydd wythnosol
A £1.68
B £1.96
C £2.24
D £2.52
E £3.08
F £3.64
G £4.20
H £5.04
I £5.88

Ystyrir canlyniad yr ymgynghoriad hwn pan fydd y penderfyniad terfynol ar lefelau Treth y Cyngor yn cael eu gwneud gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2025.

Esboniad o Dreth y Cyngor

Dweud eich dweud

Rydyn ni’n ymgynghori ar y cynigion hyn tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, a byddem ni’n gwerthfawrogi clywed eich barn.