Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Fan-tastic! Fflyd werdd gynyddol cyngor yn cyrraedd carreg filltir 50 cerbyd
    28 Awst 2024

    Mae fflyd gynyddol Cyngor CASTELL-NEDD PORT TALBOT o gerbydau trydan ac allyriadau isel bellach wedi cyrraedd 50, wrth i’r cyngor barhau i wthio am ddyfodol glanach, gwyrddach.

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o Fudd i Gymunedau drwy Fuddsoddi mewn 16 o Brosiectau sy'n Seiliedig ar Sgiliau!
    23 Awst 2024

    Bwriedir i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer prosiectau ledled Castell-nedd Port Talbot wella sgiliau craidd, cynorthwyo cynnydd y gweithlu, lleihau anweithgarwch economaidd, a mynd i'r afael â bylchau sgiliau lleol.

  • Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU
    22 Awst 2024

    Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n rhoi adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu penderfynoldeb a'u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae perfformiad mewn cymwysterau TGAU a chymwysterau galwedigaethol yn 2024 yn dychwelyd i lefelau tebyg i'r rhai a welwyd cyn y pandemig, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot yn ennill o leiaf bum gradd TGAU A*-C neu raddau cyfatebol.

  • Dyddiad i'r dyddiadur – bydd Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yn dychwelyd yn 2024!
    22 Awst 2024

    Bydd Gŵyl Bwyd a Diod flynyddol Castell-nedd yn dychwelyd i Ganol Tref Castell-nedd ddydd Gwener, 4 Hydref, a dydd Sadwrn, 5 Hydref, 2024 (10am – 5.30pm ar y naill ddiwrnod a'r llall).

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Buddsoddi mewn Prosiectau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot
    21 Awst 2024

    Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gwneud cynnydd mawr tuag at fynd i'r afael â heriau rhifedd sy'n wynebu trigolion Castell-nedd Port Talbot drwy fuddsoddi mewn wyth prosiect arloesol o dan raglen ‘Lluosi’. Mae'r prosiectau'n cynnig gweithdai a chyrsiau rhifedd am ddim sydd â'r nod o wella sgiliau mathemateg beunyddiol trigolion, waeth beth fo'u cefndir ac, yn y rhan fwyaf o achosion, eu cymwysterau blaenorol, a thrwy hynny wella rhagolygon cyflogaeth a llesiant cyffredinol trigolion.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyngor y Flwyddyn drwy'r DU gyfan
    21 Awst 2024

    MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei enwi ymhlith yr wyth cyngor gorau yn y DU gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE).

  • Y Saith Prosiect sy'n Trawsnewid y Rhanbarth drwy Gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
    19 Awst 2024

    Mae cyfres o fentrau trawsnewidiol sydd â'r nod o hybu twf a chynaliadwyedd economaidd y rhanbarth yn bosibl diolch i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Caiff y saith prosiect hyn eu gweinyddu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ac maent yn cynrychioli buddsoddiad strategol mewn arloesedd, entrepreneuriaeth, a stiwardiaeth amgylcheddol.

  • Allech chi fod yn Fam Wen Hud i Ulw Ela ar gyfer pantomeim eleni yn Theatr y Dywysoges Frenhinol?
    16 Awst 2024

    MAE CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT a chwmni cynhyrchu MTAZ Productions yn chwilio am rywun lleol sydd â llais canu da i ddringo i’r llwyfan fel un o sêr pantomeim eleni, Ulw Ela (Cinderella) yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot.

  • Arweinydd y Cyngor yn croesawu rhyddhau miliynau i ddiogelu busnesau a gweithwyr cadwyn gyflenwi dur
    15 Awst 2024

    MAE Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt, wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i benderfyniad Llywodraeth y DU i ryddhau £13.5m ar unwaith er mwyn cefnogi gweithwyr a busnesau'r gadwyn gyflenwi y bydd penderfyniad Tata Steel i bontio i brosesau cynhyrchu dur gwyrddach yn effeithio arnynt.

  • Ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn Dathlu Llwyddiant Ysgubol yn eu Canlyniadau Safon Uwch
    15 Awst 2024

    Mae myfyrwyr ac athrawon Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot, sef y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig addysg ôl-16, yn cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau yn 2024.