Datganiad I'r Wasg
-
Prosiect Cysylltiadau Arfordirol Castell-nedd Port Talbot – Grymuso Pobl ac Adfer Natur11 Ebrill 2024
Diolch i arian oddi wrth gynlluniau Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gallu cyhoeddi’i brosiect diweddaraf – Cysylltiadau Arfordirol!
-
Calon Ddramatig Cymru yn lansio teithlenni teithiau grŵp10 Ebrill 2024
Ym mis Mawrth aeth Calon Ddramatig Cymru - tîm twristiaeth Castell-nedd Port Talbot – i Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain (BTTS) i nodi lansio teithlenni teithio grŵp wedi'u dylunio i groesawu mwy o ymwelwyr i'r rhanbarth.
-
Hwb ariannol i’r cynllun i ystyried dyfodol hirdymor Camlesi Tennant a Chastell-nedd09 Ebrill 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £113,850 oddi wrth fenter Mannau Treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi datblygu prosiect Canal Connections / Cysylltiadau Camlesi.
-
Dweud eich Dweud am Ddyfodol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot05 Ebrill 2024
Datblygwyd y cynllun drafft gyda phartneriaid er mwyn sicrhau fod anghenion plant a’u teuluoedd yn cael eu cwrdd drwy ddarparu gwasanaethau cefnogi sy’n gweithio orau iddyn nhw. Mae’n amlinellu sut y bydd y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau fod holl blant a phobl ifanc y sir, waeth beth fo’u hamgylchiadau, yn rhan o gymuned sy’n ateb eu hanghenion ac yn eu cefnogi i ffynnu.
-
Cymeradwyo gwerth dros £4m o waith cynnal a chadw ar lwybrau a heolydd, cryfhau pontydd a gwaith arall ledled Castell-ne05 Ebrill 2024
Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi’r golau gwyrdd i dros £4 miliwn o waith peirianneg priffyrdd, cynnal a chadw a gwaith arall ymhob rhan o’r fwrdeistref sirol.
-
Gwaith i Ehangu Sinema ac Uwchraddio Canolfan y Celfyddydau ym Mhontardawe yn Dechrau05 Ebrill 2024
Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect i ehangu'r sinema a gwella cyfleusterau yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe.
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cynnal digwyddiad 'Cefnogi Busnesau yn y Rhanbarth' yn Orendy Parc Margam02 Ebrill 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd busnesau lleol i fynychu’r digwyddiad 'Cefnogi Busnesau Castell-nedd Port Talbot a’r Rhanbarth’ cyn bo hir, fydd yn digwydd yn yr Orendy, Parc Margam, Port Talbot ddydd Mawrth, Ebrill 9, o 13:45 tan 17:00.
-
Hysbysiad Cau Heol Dros Dro – A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf28 Mawrth 2024
Gan ddechrau o ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024, bydd darn o ffordd ar gau dros dro (gweler map) ar ran o Heol Aman, yr A4069 ym Mrynaman Isaf, ar gyfer gwneud gwaith peirianneg sifil hanfodol gan yr Awdurdod Glo. Bydd y gwaith yn cymryd rhyw dair wythnos i’w gwblhau.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 27 Mawrth 202427 Mawrth 2024
Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a'u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.
-
Prif Weithredwr newydd, achos busnes a phresenoldeb digidol ar ei newydd wedd i’r Porthladd Rhydd Celtaidd25 Mawrth 2024
Mae Luciana Ciubotariu wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd i sicrhau y bydd y prosiect ailddiwydiannu, datgarboneiddio ac adfywio hollbwysig hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Mai 2024.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 19
- Tudalen 20 o 55
- Tudalen 21
- ...
- Tudalen 55
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf