Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad 1/9/2017

Y Diweddaraf am y Tirlithriad 1/9/2017

Hysbysiadau Gwahardd

Fel yr adroddwyd amdano'n flaenorol, mae teras â deg tŷ ar Heol Cyfyng wedi bod yn destun hysbysiadau gwahardd ac mae'r cyngor wedi mynnu bod preswylwyr yn ei gadael ar unwaith gan eu bod mewn perygl enbyd. Mae hysbysiadau gwahardd yn offeryn gorfodi a ddefnyddir yn aml gan y cyngor i gyflawni ei ddyletswydd o dan Ddeddf Tai 2014.

Yn ôl yr hysbysiadau gwahardd sy'n ymwneud â Heol Cyfyng, rhaid i'r perchnogion fynd i'r afael â'r peryglon sy'n effeithio ar bob eiddo. Nid oes gan nifer o'r tai gysylltiad mwyach â system carthffosiaeth, felly mae gwastraff afiach yn cael ei ollwng yn syth ar y llethr tuag at y gamlas, ac mae rhai ohonynt wedi colli'r rhan fwyaf o'u gerddi cefn oherwydd agosrwydd y tirlithriad. Yn ogystal â hyn, nid oes unrhyw fesurau amddiffyn ar waith i wahanu'r gerddi sy'n weddill o ddisgyniad serth y tu hwnt. Rhaid i berchnogion yr eiddo hyn roi gwybod i'r cyngor am sut maent yn bwriadu cael gwared ar y peryglon hyn.

Er nad yw'r peryglon hyn yn effeithio ar y teras cyfan, mae sefydlogrwydd y tir yr adeiladwyd y teras arno'n effeithio ar y teras cyfan. Felly, mae'r hysbysiadau'n gorfodi'r perchnogion i sicrhau cyngor arbenigol ar sefydlogrwydd y tir sy'n cefnogi'r tai.

Cwrdd â Phreswylwyr Heol Cyfyng

Gwahoddwyd perchnogion pob un o'r deg eiddo i gyfarfod â'r cyngor ar 25 Awst i drafod proses yr hysbysiad gwahardd hwn ymhellach. Rhoddwyd gwybod iddynt y gallent symud yn ôl i'r eiddo pe baent yn mynd i'r afael â'r peryglon yn yr holl hysbysiadau gwahardd. Fodd bynnag, pe bai adroddiadau geodechnegol yn nodi na ellid cefnogi'r tai'n ddiogel, byddent yn annhebygol o gael caniatâd i ddychwelyd a byddai angen i'r cyngor ystyried y cam gweithredu mwyaf priodol ar gyfer y dyfodol o ran y teras hwn.

Felly, mae'n bosib y bydd y cyngor yn cyflwyno gorchmynion dymchwel ar yr eiddo lle mae'r perygl yn parhau. Nid yw'r cyngor wedi cyrraedd y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cyflwynwyd gorchymyn dymchwel ar un eiddo gwag ac adfeiliedig yn y teras fel rhan o ffocws ehangach ar faterion iechyd a diogelwch yn yr ardal.

Hefyd, rhoddodd y cyngor wybod i'r preswylwyr yr effeithir arnynt am y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chyflwyno cais am iawndal.

Y Diweddaraf am Lety

Oherwydd yr angen i breswylwyr adael eu heiddo, cawsant eu cynorthwyo gan y cyngor a'n partneriaid allanol i symud i lety amgen. Oherwydd nifer y preswylwyr yr effeithir arnynt, bu rhai ohonynt mewn llety brys am gyfnod byr tan i lety mwy addas gael ei nodi.

Dim ond un o'r teuluoedd a adawodd eu heiddo sydd mewn llety brys er y byddant yn cael eu hadleoli i lety addas mwy parhaol cyn bo hir.

Cyfarfod Cyhoeddus

Caiff cyfarfod cyhoeddus am y tirlithriad ym Mhant-teg yn Ystalyfera ei gynnal yn Ysgol Gyfun Ystalyfera nos Iau 7 Medi 2017 ar 7pm. Mae'r cyngor yn gwahodd preswylwyr o Heol Cyfyng a'r strydoedd cyfagos yn Ystalyfera, yn ogystal â pherchnogion tir ac eiddo yn yr ardal, i ddod i'r ardal i glywed y diweddaraf am y sefyllfa.