Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Y Diweddaraf 22/09/2017

Y Diweddaraf 22/09/2017

Dyma'r newyddion diweddaraf am y pwyntiau a drafodwyd a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 7 Medi 2017.

Camlas a llwybr halio

Yn ystod y tirlithriad diwethaf ym mis Mehefin, cwympodd malurion a choed i lawr y llethr i'r gamlas isod, gan beri i ddŵr orlifo mewn ardaloedd gerllaw ac islaw'r gamlas.

Er mwyn atal hyn rhag digwydd eto, mae peirianwyr yn ymchwilio i gynnig i osod pibell yn y gamlas i gynnal llif y dŵr ac atal dŵr y gamlas rhag gorlifo.

Bydd y llwybr halio'n parhau i fod ar gau nes i ddadansoddiadau manwl o'r llethr ac asesiadau risg o'r ardal gael eu cwblhau. Caiff penderfyniad ar ailagor y llwybr halio ei ailystyried pan fydd yr wybodaeth hon ar gael.

 

Arolygon coed

Mae arolygon coed wedi dechrau ar draws yr holl ardal beryglus. Bydd yr arolwg yn nodi coed sy'n peri risg. Caiff llawer o'r coed sydd dan berchnogaeth breifat eu symud neu eu tocio er mwyn gwella diogelwch, gyda chytundeb y perchnogion.

Draenio'r briffordd

Fel y gofynnwyd amdano yn y cyfarfod cyhoeddus, cyhoeddir yr amserlen glanhau cwteri ar gyfer Heol Cyfyng, Heol yr Eglwys a Heol y Graig yma.
Byddwn yn cyhoeddi map hefyd sy'n dangos holl ddraeniau, cwteri a chwlferi priffyrdd y mae'r cyngor yn eu cynnal a'u cadw yn yr ardal hon. Bydd hwn ar gael ar ein tudalen we arbennig ar gyfer tirlithriad Pant-teg www.npt.gov.uk/pantteg maes o law.


Chwarel Pen y Graig

Cwblhaodd yr Awdurdod Glo archwiliad o Chwarel Pen y Graig, Ystalyfera, ym mis Awst 2017. Yn ôl yr argymhelliad, cynhelir archwiliad arall yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd y llystyfiant wedi edwino.
Gellir gweld yr adroddiad ar we-dudalennau tirlithriad Pant-teg yma.

 

Tribiwnlys Eiddo Preswyl

Dylid fod wedi cynnal tribiwnlys ar 20 Medi 2017, mewn cysylltiad â'r apêl a gyflwynwyd ar ran preswylydd/wyr Rhif 86 Heol Cyfyng yn erbyn y Gorchymyn Gwahardd a osodwyd yn wreiddiol.

Mae'r cyngor wedi'i gynghori bod y tribiwnlys bellach wedi'i ohirio. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw apeliadau ar waith o ran unrhyw eiddo sy'n destun gorchmynion gwahardd brys ar Heol Cyfyng, felly mae'r holl orchmynion hynny'n parhau i fod mewn grym.

Cynghorwyd partïon i gysylltu â'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl os hoffent adfer yr apêl.