Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad 21/12/17

Mae apeliadau gan bedwar person sy'n herio penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i'w gorfodi i adael eu cartrefi yn Ystalyfera ar ôl tirlithriadau wedi'u gohirio tan ddechrau 2018.

Apeliodd y pedwar ohonynt o Heol Cyfyng, Ystalyfera, at Dribiwnlys Eiddo Preswyl, a gynhaliwyd mewn gwesty yng Nghaerdydd ddydd Llun, 18 Rhagfyr, yn erbyn penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i osod Gorchmynion Gwahardd Brys arnynt ym mis Awst 2017.

Ar ôl clywed tystiolaeth ddydd Llun, penderfynodd panel y tribiwnlys y bydd angen un neu ddau ddiwrnod o bosib i glywed yr holl dystiolaeth, felly gohiriwyd y gwrandawiad tan ddyddiadau a bennir ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Gosododd yr awdurdod y Gorchmynion Gwahardd Brys ar ôl i'r ymgynghorwyr peirianneg a daearegol annibynnol a ymchwiliodd i'r tirlithriadau (Earth Science Partnership) ddatgan bod "perygl dybryd i fywyd" o ran teras o gartrefi yn ardal Heol Cyfyng – gan gynnwys cartrefi'r apelyddion.

Mae'r rhan fwyaf o'r rhai y cyflwynwyd Gorchmynion Gwahardd Brys iddynt ym mis Awst 2017 wedi'u hadleoli.

Mae'r cyngor wedi cyflogi nifer o ymgynghorwyr arbenigol dros y blynyddoedd ac mae Map Peryglon wedi'i lunio i nodi'r risg i eiddo preswyl.

Mae'r map yn gosod eiddo preswyl o fewn parthau risg uchel, ganolig ac isel.

Bu'r cyngor hefyd yn defnyddio arolygon LiDAR (dronau awyr â sganwyr laser), yn clirio coed a llystyfiant, yn gwneud gwaith draenio ac yn turio dyfrdyllau a thyllau arbrofol er mwyn asesu'r amodau o dan y ddaear ar dir sy'n breifat yn bennaf.

Ers y tirlithriad diweddaraf ym mis Chwefror 2017, y gost i'r cyngor fu £309,000 a disgwylir i'r gwariant gyrraedd mwy na £500,000 erbyn mis Mawrth 2018.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar 29 Ionawr 2018 lle bydd yr wybodaeth ddaearegol ddiweddaraf am yr ardal yn cael ei chyhoeddi.

Pennwyd dyddiad 29 Ionawr er mwyn sicrhau bod gan yr awdurdod ddata cynhwysfawr gan ei ymgynghorwyr o ran amodau tir lleol.

Mae Earth Science Partnership yn gweithio yn unol â rhaglen gytunedig y cyngor yn barod am y cyfarfod cyhoeddus, mae un o'r waliau cynnal ar Heol Cyfyng yn cael ei hatgyweirio ac mae gwaith trin coed yn parhau.

Bydd ffordd ar gau dros dro o 15 Ionawr 2018 am oddeutu pum niwrnod i symud coed sydd uwchben y wal gynnal goncrit ar Heol Cyfyng. Mae eiddo wedi'i ddymchwel ar Graig y Merched ac mae dyfrdyllau wedi'u turio. Rydym nawr yn aros am ganlyniadau'r gwaith hwn.