Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ailgylchu Yn Ystod Gwyntoedd Cryfion

Cyngor Ar Gyflwyno Gwastraff Yn Ystod Gwyntoedd Cryfion

Yn ystod gwyntoedd cryfion, efallai bydd gwastraff ac ailgylchu'n cael eu chwythu allan o'r cynwysyddion, yn enwedig deunyddiau ailgylchu ysgafn yn y bagiau hesian. Gall hyn arwain at fwy o sbwriel yn eich stryd.

I helpu i atal sbwriel a chadw'ch cymuned yn daclus, dilynwch yr awgrymiadau hyn.

  • Os yw eich cynwysyddion ailgylchu'n hanner llawn, allwch chi aros tan eich casgliad nesaf? Efallai yr hoffech fynd â'ch gwastraff i ganolfan ailgylchu.
  • Rhowch eich cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu allan ar fore'r casgliad yn hytrach na'r noson cynt. Rhowch y cynwysyddion allan erbyn 6am fan bellaf, a'u casglu'n ôl cyn gynted â phosib.
  • Rhowch eich gwastraff gardd allan i'w gasglu bob pythefnos yn unig, ar yr un diwrnod ag y caiff eich sachau du/sbwriel o'ch bin olwynion eu casglu.
  • Diogelwch eich gwastraff a'ch ailgylchu rhag y gwynt drwy roi eich cynwysyddion mewn lle cysgodol. Os nad yw hyn yn bosibl, rhowch gynnig ar osod cynwysyddion mewn ffordd sy'n eu hatal rhag cael eu chwythu ymaith. Os yw'n bosib, rhowch fagiau hesian rhwng y bin olwynion a'r blychau plastig.
  • Gwnewch yn siŵr y defnyddir strapiau felcro ar y bagiau hesian a bod y clawr ar y bocs papur.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw cynwysyddion yn orlawn a sicrhewch fod cloriau wedi'u cau i atal gwastraff rhag cael ei chwythu i lawr y stryd.
  • Drwy roi rhif eich tŷ ar eich cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu, mae'n haws i'r criwiau ddychwelyd y cynwysyddion i'r eiddo cywir.

Cyfarwyddir criwiau i glirio unrhyw ddeunyddiau sy'n cael eu gollwng wrth iddynt gasglu'r gwastraff a'r ailgylchu. Yn anffodus, ni all criwiau bob amser glirio gwastraff sydd wedi chwythu bellterau mawr.

Adroddwch am unrhyw broblemau sbwriel difrifol ar-lein yn https://www.npt.gov.uk/?lang=cy-gb

Does dim terfyn ar swm yr ailgylchu y byddwn yn ei gasglu. Gellir archebu cynwysyddion newydd neu ychwanegol ar-lein.