Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mynediad i Waith

Mae eich taith yn dechrau yma

P’un ai os ydych chi ond yn dechrau meddwl am eich dewisiadau gyrfa, yn chwilio am eich swydd gyntaf neu’n chwilio am newid gyrfa neu ddychwelyd i waith ar ôl seibiant, nod ein llwybrau mynediad i waith yw cefnogi pawb.

Sut bynnag wnewch chi ymuno â ni, unwaith y dewch yn rhan o Dîm CPT, byddwn ni’n gweithio’n galed i sicrhau fod y cyfleoedd cywir ar gael i chi wrth i chi ddatblygu a thyfu. Gyda’r hyblygrwydd i symud i adrannau gwahanol yn y cyngor, bydd modd i chi adeiladu gyrfa lwyddiannus a boddhaus yn ogystal â chael y cyfle i roi ffurf ar ddyfodol ein rhanbarth.

Dod o hyd i swyddi gwag Mynediad i Waith ar y dudalen Chwilio ac Ymgeisio.

Cynlluniau Gwarantu Cyfweliad

Rydyn ni’n Gyflogwr Hyderus gydag Anabledd, sydd wedi ymrwymo i gyfweld pob ymgeisydd anabl os ydyn nhw’n ateb isafswm gofynion y swydd.

Rydyn ni hefyd yn ymrwymo i gyfweld pob cyn-aelod o’r Lluoedd Arfog sy’n ateb y meini prawf hanfodol a nodir ar fanyleb person y rôl y maen nhw’n ymgeisio amdani.

Prentisiaethau

rydyn ni’n cynnig ystod eang o brentisiaethau o Lefel 1 i 4+, sy’n ymestyn dros ystod o feysydd swyddi gan gynnwys Gweinyddu Busnes, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Gwaith Coed, Peirianneg Drydanol, TGCh ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol i enwi rhai. Bydd gennych lwybr gyrfa clir a chyflog dechreuol sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog. Mae prentisiaeth yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa neu newid eich gyrfa i ddysgu rhywbeth newydd.

Profiad Gwaith

Gall unrhyw un ymgeisio am leoliad gwaith gyda ni. Byddwn ni’n gweithio gyda myfyrwyr ysgol, coleg a phrifysgol, yn ogystal â rhai nad ydynt yn fyfyrwyr, i gefnogi a ffynonellu lleoliadau gwaith..

Ni roddir tâl am leoliadau ac maen nhw ar gael yn y rhan fwyaf o gyfarwyddiaethau, ond efallai y byddwn ni’n cadw’r hawl i eithrio profiad gwaith mewn rhai meysydd gwaith ble byddai gofyniad galwedigaethol dilys yn peri fod y lleoliad yn anaddas. Efallai na fydd modd i ni gynnig gwarant o gael eich derbyn oherwydd y lefel uchel o geisiadau a dderbynnir gennym, ond byddwn ni’n gwneud ein gorau i leoli cynifer o ymgeiswyr â phosib.

Work experience at Neath Port Talbot Council

Rhaglenni Dychwelyd i’r Gwaith

Os ydych chi’n ystyried dychwelyd i fyd gwaith, ar ôl saib yn eich gyrfa, gall ein rhaglenni yn y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai helpu. Cewch hyfforddiant, cefnogaeth a mentora rhagorol i beri fod eich symudiad yn brofiad mor bleserus a chynhyrchiol â phosib.

Rhaglenni Dychwelyd i’r Gwaith

Hyfforddi

Os ydych chi’n 18 neu iau ond nid mewn addysg lawn amser, rydyn ni’n cynnig detholiad o ddewisiadau hyfforddi. O gyfleoedd blasu 12 – 21 awr yr wythnos, i leoliadau naw mis Lefel 1, i raglen Pont i Gyflogaeth gyda lleoliad o 10 wythnos cyn mynd i mewn i swydd a darparu cyfleoedd o symud ymlaen i mewn i brentisiaeth.

Traineeships

Dod o hyd i swydd