Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw gwastraff ar yr ochr?

Gwastraff gormodol a roddir allan ar y cyd â'ch swm caniataëdig o wastraff yw gwastraff ar yr ochr. Caniateir un bin olwynion 140 litr neu dair sach ddu ar gyfer pob aelwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Nid oes terfyn ar swm yr ailgylchu y byddwn yn ei gasglu.

 

Pam ydych chi'n cyflwyno'r polisi hwn?

Yn dilyn canllawiau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu cyflwyno polisi dim gwastraff ar yr ochr. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod gweithredu polisi dim gwastraff ar yr ochr yn lleihau cyfanswm y gwastraff a roddir allan ac yn cynyddu swm y deunydd ailgylchadwy a roddir allan i'w ailgylchu.

 

A fyddwch yn casglu fy ngwastraff ar yr ochr? Beth fydd yn digwydd os rhoddaf wastraff ar yr ochr allan i'w gasglu?

Na fyddwn. Bydd y cyngor yn monitro'r casgliadau gwastraff ac yn cysylltu â phreswylwyr sy'n rhoi gwastraff ar yr ochr allan i'w helpu i leihau swm y gwastraff na ellir ei ailgylchu maent yn ei roi allan a chynyddu swm y gwastraff a roddir allan i'w ailgylchu.

 

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn parhau i roi gwastraff ar yr ochr allan?

Gall preswylwyr sy'n parhau i roi gwastraff ar yr ochr allan a pheidio ag ailgylchu ar ôl y camau addysgol dderbyn Hysbysiad o Gosb Benodol o hyd at £100.

 

Sut gallaf leihau swm y gwastraff yn fy min/sachau du?

Gallwch leihau swm y gwastraff yn eich bin du drwy fod yn fwy ymwybodol yn amgylcheddol o'r cynnyrch rydych yn ei brynu, gan wneud yn siŵr y gellir ailgylchu'r pecynnau neu'r cynnyrch ar ôl ei ddefnyddio.

Gallwch ddysgu am y deunyddiau rydym yn eu hailgylchu ar ein tudalen arweiniad ailgylchu yn https://www.npt.gov.uk/5359?lang=cy-gb a'u rhoi allan fel rhan o'n casgliad ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol.

Os nad ydych eisoes wedi archebu'ch pecyn ailgylchu, neu os hoffech archebu mwy o gynwysyddion ailgylchu, gallwch wneud hyn drwy'r ddolen uchod.


Beth gallaf ei wneud gyda fy ngwastraff gormodol?

Gellir didoli gwastraff gormodol a'i roi allan yn y cynhwysyddion ailgylchu addas fel rhan o'n casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol.

Fel arall, gellir gwaredu'r gwastraff gormodol yn eich Canolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu leol. Sylwer y bydd yn rhaid i chi ddangos nad oes deunydd ailgylchadwy yn y sachau du a gludir i'n safleoedd. Ein cyngor yw eich bod yn didoli'r gwastraff cyn i chi ddod oherwydd gall fod ciwiau yn ystod oriau brig.

Bydd Canolfan Ailgylchu Pwllfawatkin yn cau ar 31 Mawrth 2019. O 1 Ebrill 2019, bydd preswylwyr yn gallu defnyddio'r safle yng Nghwm Twrch Isaf ym Mhowys. Sylwer bod y safle hwn yn gweithredu polisi tebyg i'r uchod. Bydd angen trwydded ar gerbydau penodol ac mae'r amserau agor yn wahanol i rai Castell-nedd Port Talbot felly ewch i'n gwefan i gynllunio'ch ymweliad. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar-lein yn https://www.npt.gov.uk/1463?lang=cy-gb.

Gwnewch yn siŵr, os byddwch yn defnyddio cwmni gwaredu gwastraff preifat, fod gan y cwmni hwn y drwydded trosglwyddo gwastraff gywir a'i fod yn gwaredu'ch gwastraff yn y modd cywir. Mae arnoch ddyletswydd gofal i sicrhau bod eich gwastraff yn mynd i gyfleuster gwaredu gwastraff â thrwydded (nid Canolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu). Os caiff y gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon, gallech dderbyn dirwy.

 

A gaf i fin mwy?

Na chewch. Nid yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig biniau mwy. Gall preswylwyr fod yn gymwys am y cynllun eithrio os ydynt yn ailgylchu popeth y gallant.

Gellir cwblhau'r holl geisiadau ar-lein yn https://www.npt.gov.uk/7336?lang=cy-gb. Cofiwch fod pob cais yn cael ei asesu ar sail unigol a rhaid iddo fodloni amodau penodol.

 

Pam nad oes gennym gasgliad gwastraff wythnosol?

Mae'r canllawiau a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru'n hyrwyddo gwasanaeth lle cesglir gwastraff yn llai aml. Lle cynigiwyd gwasanaeth casglu bwyd wythnosol, gwelwyd bod casgliad gwastraff pythefnosol yn ddigonol. Mae tystiolaeth yn dangos bod casgliad pythefnosol yn lleihau swm y gwastraff a roddir allan gan yr aelwyd ac yn cynyddu swm y deunydd sy'n cael ei ailgylchu.

 

Beth os ydw i'n cynnal busnes o'm cartref?

Os ydych yn cynnal busnes o'ch cartref, bydd yn rhaid i chi gadw'r gwastraff hwn ar wahân i'ch gwastraff cartref. Bydd yn rhaid i chi drefnu gwasanaeth casglu a gwaredu gwastraff masnach a thalu ar ei gyfer. Os nad ydych wedi gwneud trefniadau addas, efallai na chaiff eich gwastraff cartref ei gasglu o ganlyniad i hyn.

 

A fydd y polisi hwn yn cynyddu tipio anghyfreithlon?

Rydym yn disgwyl i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot waredu eu gwastraff yn y modd cywir. Gallant wneud hyn naill ai drwy ddefnyddio'r gwasanaeth casglu ymyl y ffordd neu ganolfannau ailgylchu. Ar sail newidiadau blaenorol i'r gwasanaeth, a'r ffaith bod cynghorau eraill bellach yn gweithredu'r polisi dim gwastraff ar yr ochr, nid ydym yn disgwyl cynnydd mewn tipio anghyfreithlon.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi lleihau ar y cyfan.

Mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot y tîm gorfodi mwyaf rhagweithiol a llwyddiannus yng Nghymru a bydd yn parhau i fonitro lefelau tipio anghyfreithlon ar draws Gastell-nedd Port Talbot ac yn cymryd camau gorfodi lle bo'r angen.

 

Beth os byddaf i ffwrdd ac felly'n colli fy nghasgliad?

Os ydych wedi colli'ch casgliad gwastraff ac nid yw eich bin wedi'i wacáu, ni allwn wneud trefniadau i ddychwelyd i gasglu'ch gwastraff. Bydd yn rhaid i chi naill ai aros tan eich casgliad nesaf neu waredu'ch gwastraff yn eich canolfan ailgylchu agosach.

Rydym yn cynnig gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol. Rhowch eich gwastraff allan ar ymyl y ffordd erbyn 6am ar ddiwrnod eich casgliad neu'r noson gynt. Os nad ydych yn siŵr beth yw diwrnod eich casgliad, gallwch wirio ar-lein yn https://www.npt.gov.uk/2195?lang=cy-gb

 

Pam oes sachau du yn fy min o hyd?

Sylwer os ydych wedi cywasgu gormod o sachau yn eich bin, mae'n bosib na chaiff rhai o'r sachau yn y bin eu gwacáu ac, er bod ein cyfleuster ysgwyd biniau awtomataidd wedi'i osod i'r gosodiad optimwm, efallai na chaiff y sachau eu gwacáu i gefn y cerbyd gwastraff.

Ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu sachau a adawyd ar ôl yn y bin ar ôl y casgliad a bydd yn rhaid i chi naill ai aros tan eich casgliad nesaf neu waredu'ch gwastraff yn eich canolfan ailgylchu agosach.

 

Casgliadau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd?

Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am gasgliadau dros gyfnod y Nadolig yn nes at yr amser.