Hepgor gwe-lywio

Deilliannau ac Amcanion

Archwilio’r deilliannau a ddaeth yn sgîl ein gwaith i gynefinoedd, treftadaeth a phobl.

Cyflawnodd prosiect Adfer Mawndiroedd Coll De Cymru ei nodau a’i amcanion yn llwyddiannus, gan gyflwyno manteision mesuradwy ym meysydd cynefinoedd, treftadaeth, cymunedau a dealltwriaeth wyddonol. Cadarnhawyd y cyflawniadau hyn trwy werthusiad allanol, oedd yn cadarnhau safon y gwaith a wnaed a’r effaith gadarnhaol, barhaol a gafwyd ar draws ardal y prosiect. 

Deilliannau a Gyflawnwyd

  • Dechreuodd ystod ehangach a mwy amrywiol o bobl ymwneud â threftadaeth, oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr, ysgolion, grwpiau cymunedol a chyfranogwyr nad oeddent erioed o’r blaen wedi ymgysylltu â thirlun yr ucheldir.
  • Mae’r dreftadaeth bellach mewn cyflwr gwell, gyda chynefinoedd mawndir a adferwyd, gwell swyddogaeth ecolegol, a phresenoldeb cynyddol rhywogaethau cors arbenigol ar draws safleoedd allweddol.
  • Mae treftadaeth naturiol a diwylliannol wedi cael eu nodi, eu cofnodi a’u hesbonio’n well, gyda chefnogaeth ymchwil newydd, monitro manwl, cyfranogiad cymunedol a gwell dehongli.
  • Datblygodd pobl sgiliau newydd, gan gynnwys sgiliau cadwraeth ymarferol, technegau arolwg ecolegol, gweithgareddau llesiant, dulliau dysgu awyr agored ac arferion traddodiadol rheoli tir.
  • Arweiniodd dysgu am dreftadaeth at newid cadarnhaol mewn agweddau, dealltwriaeth ac ymddygiad, yn enwedig yng nghyswllt ecoleg mawndir, atal tanau gwyllt, bioamrywiaeth a gwydnwch o ran yr hinsawdd.
  • Profodd pobl leol fwy o lesiant, gyda chefnogaeth gweithgareddau natur, rhaglenni awyr agored, gwirfoddoli a llwybrau rhagnodi cymdeithasol.
  • Mae’r ardal leol bellach yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef, gyda gwell mynediad, tirluniau a gyfoethogwyd, cysylltiadau cymunedol cryfach â lle, a chyfleoedd newydd ar gyfer hamdden, gwirfoddoli ac addysg.
NLHF Visit Event NLHF Visit Event

Amcanion (a gyflawnwyd!)

Treftadaeth Naturiol

  • Adfer a rheoli cynefinoedd mawndir ar yr ucheldir.
    Gwella cyflwr safleoedd sydd wedi diraddio er mwyn cynyddu bioamrywiaeth a chefnogi adferiad ecosystemau gweithredol, cydnerth o ran yr hinsawdd. Mae hyn yn cyfrannu at leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, tanau gwyllt a llifogydd.
  • Arolygu a monitro cynefinoedd, rhywogaethau a hydroleg.
    Casglu data ecolegol a hydrolegol o safon uchel er mwyn sicrhau bod treftadaeth naturiol yr ardal yn cael ei chofnodi a’i deall yn well, a’i defnyddio i lywio rheolaeth hirdymor ac arfer gorau.
  • Gwneud gwaith ymchwil i roi sylw i’r bylchau yn y dystiolaeth.
    Cynnal gwaith ymchwil gwyddonol ar adfer mawndiroedd a goedwigwyd er mwyn llywio gwaith i’r dyfodol oddi mewn i ardal y Mawndiroedd Coll a chyfrannu at arfer gorau ledled Cymru a’r tu hwnt.

Treftadaeth Hanesyddol

  • Ymchwilio a rhannu hanes diwylliannol y tirlun.
    Archwilio sut mae pobl wedi rhyngweithio â’r ucheldiroedd hyn dros amser a chyfathrebu’r hanesion, y traddodiadau a’r darganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r gwaith ymchwil hwn.

Cyfleusterau

  • Gwella mynediad, dehongli a darparu gweithgareddau.
    Gwella llwybrau, dehongli a phrofiadau ymwelwyr er mwyn annog pobl i archwilio tirlun y Mawndiroedd Coll a chefnogi ymgysylltiad ystyrlon â’i dreftadaeth naturiol a diwylliannol.

Pobl

  • Cefnogi iechyd a llesiant lleol.
    Darparu gweithgareddau hygyrch sydd â ffocws ar iechyd a llesiant, gan gynnwys rhaglenni sydd ar gael trwy hunan-atgyfeirio a rhagnodi cymdeithasol gwyrdd.
  • Creu cyfleoedd dysgu i ysgolion a chymunedau.
    Defnyddio tiroedd ysgol a mannau awyr agored i helpu dysgwyr a chymunedau i ymgysylltu â threftadaeth yr ardal, datblygu sgiliau newydd a dyfnhau eu dealltwriaeth o amgylcheddau naturiol a diwylliannol.
  • Darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr a myfyrwyr.
    Cynnwys pobl yn uniongyrchol yn y gwaith o reoli, monitro a chofnodi treftadaeth naturiol a hanesyddol, ochr yn ochr â chynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau rheoli tir traddodiadol a meithrin ymdeimlad o stiwardiaeth.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth trwy ddehongli a marchnata.
    Defnyddio cyfathrebu a dehongli creadigol i hyrwyddo prosiect Adfer y Mawndiroedd Coll ac annog pobl i ymweld â’r ardal, ei harchwilio a chael profiad ohoni.
  • Cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.
    Darparu cyfleoedd difyr i bobl leol ac ymwelwyr ddod i gysylltiad â’r tirlun a’i dreftadaeth.

Gwyddoniaeth ac Ymchwil

  • Arddangos arfer gorau a safonau amgylcheddol uchel.
    Gwreiddio cynaliadwyedd ar draws holl weithgareddau’r prosiect, gan sicrhau bod dulliau adfer a rheoli yn adlewyrchu’r dystiolaeth wyddonol gyfredol ac arfer gorau amgylcheddol.
  • Cyflawni monitro a gwerthuso cynhwysfawr.
    Mynd ati i fonitro gwaith cynefin yn helaeth, gan gynhyrchu tystiolaeth wyddonol gadarn a fydd yn llywio gwaith adfer mawndir ledled Cymru ac yn cyfrannu at ymchwil genedlaethol a rhyngwladol.