Hepgor gwe-lywio

Hanes y Mawndiroedd Coll

Archwilio’r atgofion, yr hanesion a’r traddodiadau diwylliannol a rennir sy’n dod â’r Mawndiroedd Coll yn fyw.

Rhannu Stori’r Mawndiroedd Coll

Ar hyd y prosiect, buon ni’n gweithio gyda phobl leol i gasglu a dathlu hanes, traddodiadau ac atgofion sy’n ffurfio tirweddau ucheldir pen uchaf Cwm Afan a Chwm Rhondda. Bu’r hanesion, yr atgofion a’r cysylltiadau diwylliannol personol hyn yn rhan hanfodol o Stori’r Mawndiroedd Coll — cofnod o sut mae cymunedau wedi byw gyda’r tirweddau hyn, wedi gweithio ynddynt, ac wedi eu deall dros genedlaethau.  

Casglu Lleisiau ac Atgofion Lleol

Fe wnaethon ni gasglu ystod eang o gyfraniadau cymunedol, gan gynnwys:

  • Hanesion personol ac atgofion teuluol
  • Ffotograffau a delweddau hanesyddol
  • Storïau, cerddi a chwedloniaeth leol
  • Ryseitiau traddodiadol, enwau lleoedd a gwybodaeth ddiwylliannol
  • Myfyrio ar ddefnydd tir a bywyd cymunedol yn y gorffennol

Helpodd y cyfraniadau hyn ni i feithrin dealltwriaeth lawnach o’r mawndiroedd a’r bobl sy’n gysylltiedig â nhw.

Alun 2 Alun 2

Sut Rhannwyd y Stori

Rhannwyd elfennau o Stori’r Mawndiroedd Coll trwy’r canlynol:

  • Ap symudol digidol a grewyd gennym,
  • Gwefan y prosiect,
  • Digwyddiadau cymunedol ar draws Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf,
  • Sesiynau ysgol a gweithgareddau llesiant,
  • Dehongli ar hyd llwybrau ac ar safleoedd y prosiect.

Gyda’i gilydd, bu’r platfformau hyn o gymorth i ddod â threftadaeth ucheldir y mawndiroedd yn fyw ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Parhau â’r Stori

Er bod y rhan o’r prosiect sy’n cael ei ariannu wedi dod i ben, rydyn ni’n parhau i groesawu storïau, atgofion a deunyddiau sy’n helpu i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol yr ucheldir.

Os oes gennych chi ffotograffau, atgofion, hanesion, ryseitiau, cerddi neu unrhyw beth arall hoffech chi ei rannu, bydden ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol neu i anfon eich cyfraniad.