Cysylltu Cymunedau â’r Mawndiroedd Coll
Ar hyd y prosiect, creodd menter Mawndiroedd Coll De Cymru gyfleoedd eang i bobl leol greu cysylltiad â threftadaeth naturiol, diwylliannol a hanesyddol y tirlun. Daeth ein gwaith â chymunedau ynghyd ar draws Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, gan helpu pobl i ailddarganfod yr ucheldir ar garreg y drws, a meithrin cysylltiadau parhaol gydag amgylchedd y mawndir.
Digwyddiadau, Gweithgareddau a Rhaglenni Cymunedol
Cyflwynwyd rhaglen amrywiol a chynhwysol o ddigwyddiadau a gweithgareddau di-dâl i drigolion lleol, teuluoedd ac ymwelwyr. Cynhaliwyd y rhain ar draws lleoliadau allweddol oedd yn cynnwys ein safleoedd mawndir ar yr ucheldir, yn ogystal ag o fewn ac yn ymyl y Cymunedau canlynol yn y cymoedd:
- Glyncorrwg
- Cymer
- Gwynfi
- Blaenrhondda
- Cwmparc
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys:
- Teithiau tywys ym myd natur a sesiynau canfod rhywogaethau
- Sgyrsiau ac adrodd storïau am dreftadaeth
- Gweithdai celf a chrefft yn yr awyr agored
- Diwrnodau i’r teulu, dathliadau tymhorol a chynulliadau cymunedol
- Diwrnodau cadwraeth ymarferol sy’n troi o gwmpas adfer mawndir
Bu’r digwyddiadau hyn o gymorth i gryfhau dealltwriaeth leol o’r ucheldir, ochr yn ochr â chreu cyfleoedd difyr, hygyrch i bobl o bob oed.
Archwilio’r Tirlun
Un o elfennau craidd y prosiect oedd gwella mynediad. Ychwanegwyd at y cyfleoedd i gymunedau ac ymwelwyr archwilio amgylchedd yr ucheldir trwy’r canlynol:
- Llwybrau cerdded newydd a gwell
- Uwchraddio arwyddion a chyfeirbwyntio
- Paneli dehongli deniadol
- Mapiau digidol ac ap Archwilio’r Mawndiroedd Coll
Bu’r gwelliannau hyn yn fodd i agor mannau a fu gynt yn anhygyrch, fel bod pobl yn cael cyfle uniongyrchol i brofi’r mawndir a adferwyd a’r tirluniau panoramig.
Iechyd a Llesiant
Rhoddodd y prosiect bwyslais pendant ar gefnogi llesiant corfforol a meddyliol. Trwy weithio gyda phartneriaid a darparwyr iechyd, cyflwynwyd cyfres o weithgareddau llesiant seiliedig ar fyd natur a luniwyd ar gyfer pobl ag amrywiaeth o anghenion iechyd.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- Teithiau tywys ysgafn
- Sesiynau coginio yn yr awyr agored
- Celf a chrefft seiliedig ar natur
- Ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur
- Gweithgareddau cadwraeth ymarferol
Ymunodd y cyfranogwyr trwy atgyfeirio’u hunain neu trwy ragnodi cymdeithasol gwyrdd, ac roedd yr adborth yn sôn yn gyson am fwy o hyder, gwella llesiant, a chysylltiadau cymdeithasol cryfach.
Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant
Darparodd y prosiect ystod eang o gyfleoedd hyfforddi, gan helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd wrth iddyn nhw ymgysylltu â’r tirlun. Roedd yr hyfforddiant a gyflwynwyd ar draws ardal y prosiect yn cynnwys:
- Sgiliau arolygon ecolegol ac adnabod rhywogaethau
- Sgiliau rheoli cynefin ymarferol
- Technegau traddodiadol megis adeiladu waliau sych
- Hyfforddiant proffesiynol ac academaidd mewn adfer mawndir ac ecoleg ucheldir
Bu’r cyfleoedd hyn o gymorth i wirfoddolwyr, myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r gymuned, gan helpu i greu capasiti hirdymor o ran rheoli cynefin a chadwraeth leol.
Addysg Awyr Agored
Cyflwynwyd profiadau dysgu awyr agored ymarferol i ysgolion ar draws Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Cynhaliwyd y sesiynau hyn ar diroedd ysgolion ac ar draws tirlun y Mawndiroedd Coll, gan gynnig:
- Gwersi awyr agored cysylltiedig â’r cwricwlwm
- Teithiau maes i archwilio cynefinoedd ucheldir, bywyd gwyllt a mawndiroedd
- Sesiynau dysgu am ynni adnewyddadwy yn Fferm Wynt Pen y Cymoedd
- Gweithgareddau awyr agored creadigol ac i’r synhwyrau
Bu’r profiadau hyn o gymorth i blant a phobl ifanc ddeall eu hamgylchedd lleol, datblygu sgiliau newydd, a meithrin ymdeimlad cryf o gysylltiad â’u tirlun.
