Hepgor gwe-lywio

Monitro

O 2021–2025, cyflwynodd prosiect Adfer Mawndiroedd Coll De Cymru un o’r rhaglenni monitro mawndir mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed yn Ne Cymru.

Gwyddoniaeth a Monitro

O 2021–2025, cyflwynodd prosiect Adfer y Mawndiroedd Coll un o’r rhaglenni monitro mawndir mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed yn Ne Cymru. Trwy weithio gyda Phrifysgol Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru, buon ni’n casglu data ecolegol, hydrolegol a charbon ar draws ein Hardaloedd Adfer Cynefinoedd a’n Mannau Gwyllt Cymunedol er mwyn deall yn union sut mae mawndiroedd a adferwyd yn ymddwyn, sut mae bywyd gwyllt yn ymateb, a sut mae’r tirluniau hyn yn cyfrannu at wydnwch yr hinsawdd.

Mae ein rhaglen wyddoniaeth bellach wedi cynhyrchu sylfaen gadarn o dystiolaeth a fydd yn llywio gwaith adfer coedwig yn gors ledled Cymru a’r tu hwnt – ardal lle roedd bylchau mawr yn y dystiolaeth yn flaenorol.

PYC Bog (16) PYC Bog (16)

Beth Buon ni’n Monitro

Er mwyn mesur llwyddiant ein gwaith adfer a thracio adferiad cynnar yr ecosystem, buon ni’n monitro’r canlynol:

Lefel y dŵr

Bu cofnodwyr lefel dŵr awtomatig yn cadw data bob awr ar yr holl safleoedd adfer. Mae’r canlyniadau’n dangos cynnydd ystadegol arwyddocaol yn lefel y dŵr yng Nghastell Nos a Chwm Saerbren, gyda thueddiadau cadarnhaol yn dod i’r amlwg yng Nghregan wrth i gyfresi data hwy ddod ar gael.

Carbon mewn Afonydd

Dangosodd samplo wythnosol am garbon cyfan ac wedi hydoddi nad oedd safleoedd a adferwyd yn cynhyrchu tonnau sylweddol o garbon, a’u bod mewn llawer o achosion yn debyg i’r safleoedd cyfeiriadol na chyffyrddwyd â nhw.

Newid llystyfiant

Mae mwy nag 8,000 o gofnodion llystyfiant bellach yn dangos cynnydd clir mewn rhywogaethau cors arbenigol megis Migwyn, Drosera a Narthecium. Yng Nghastell Nos, ehangodd Migwyn canolig – rhywogaeth allweddol sy’n creu mawn – yn sylweddol, gan wneud y safle’n gadarnle newydd ym Morgannwg.

Uni Students CN Uni Students CN

Bywyd Gwyllt

  • Adar: cofnodwyd 46 o rywogaethau ar draws ein safleoedd, gan gynnwys llawer o rywogaethau ar y rhestr Goch ac Ambr megis yr Ehedydd, Telor yr Helyg, Corehedydd y Coed, a Chric yr Eithin. Datgelodd monitro bioacwstig gymhlethdod cynyddol i’r seinlun wedi’r gwaith adfer.
  • Ystlumod: Canfuwyd naw rhywogaeth, gyda chynnydd wedi’r gwaith adfer mewn gweithgaredd ac amrywiaeth rhywogaethau ar safleoedd allweddol.
  • Llygod pengron y dŵr: Rhywogaeth warchodedig nas cofnodir yn aml mewn mawndir ucheldir. Yng Nghastell Nos, ehangodd arwyddion llygod pengron y dŵr i ardaloedd newydd wedi’r gwaith adfer, gyda chefnogaeth nodweddion dŵr agored a grewyd trwy greu argaeau a phyllau benthyg.

Canfyddiadau Gwyddonol Allweddol

  • Mae’r gwaith adfer yn gweithio. Mae lefel y dŵr yn codi, ac mae ymatebion cynnar y llystyfiant eisoes i’w gweld. Mae’r safleoedd yn wlypach, yn fwy sefydlog, ac yn fwy addas ar gyfer rhywogaethau sy’n creu corsydd.
  • Mae bywyd gwyllt yn ymateb yn gyflym. Cynyddodd gweithgaredd ac amrywiaeth adar ac ystlumod mewn ardaloedd a adferwyd, ac ehangodd llygod pengron y dŵr ar draws Castell Nos am y tro cyntaf a gofnodwyd.
  • Mae’r arwyddion carbon yn gadarnhaol. Ni welwyd unrhyw dystiolaeth o golli carbon sylweddol ar y safleoedd a adferwyd wedi’r gwaith. Cynyddodd cyfran y carbon hydawdd (DOC) dros amser – dangosydd amodau sy’n sefydlogi.
  • Datblygwyd mesurau monitro arloesol yma. Cynhyrchodd Prifysgol Abertawe ddulliau newydd ar gyfer mesur fflwcs nwyon tŷ gwydr, hydroleg crynhoad a chywasgiad mawn wedi’r gwaith adfer, gan lenwi bylchau allweddol yn nhystiolaeth y Deyrnas Unedig.
  • Mae’r monitro ar Fannau Gwyllt Cymunedol yn dangos sefydlogrwydd. Parhaodd y Mannau Gwyllt Cymunedol mewn cyflwr da, gyda’r rhywogaethau ymledol dan reolaeth a’r rheolaeth ar y rhedyn yn sicrhau manteision lleol o ran bioamrywiaeth.

Beth mae hyn yn ei olygu i Wyddor Mawndiroedd

Mae prosiect Adfer y Mawndiroedd Coll bellach yn astudiaeth achos bwysig ar gyfer gwaith adfer troi coedwig yn gors yng Nghymru. Mae ein cronfeydd data eisoes yn cael eu defnyddio mewn fforymau mawndir cenedlaethol, ymchwil academaidd a chynlluniau adfer ffermydd gwynt i’r dyfodol. Mae sawl canfyddiad – gan gynnwys rôl “cywasgu” mawn a achosir gan groes-dracio ac ymddygiad methan mewn rhychau a adferwyd – yn cynrychioli cyfraniadau newydd i wyddor adfer mawndiroedd.

Monitro Hirdymor

Er bod y cyfnod adfer wedi dod i ben, mae’r wyddoniaeth yn parhau. Bydd cofnodwyr lefel dŵr awtomatig yn parhau yn eu lle am y 10 mlynedd nesaf, o leiaf, a bydd yr arolygon llystyfiant, carbon a bywyd gwyllt yn parhau trwy ein partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Mae monitro ychwanegol hirdymor yn digwydd trwy’r canlynol:

  • Rhaglen ymchwil Prifysgol Abertawe ar fferm wynt Pen y Cymoedd, wedi’i ariannu gan Vattenfall, sy’n cyfrannu data hydrolegol ac ecolegol manwl.
  • Rhaglen Genedlaethol Gweithredu ynghylch Mawndiroedd (NPAP), sy’n casglu tystiolaeth fonitro safonedig ledled Cymru i asesu cyflwr mawndir yn genedlaethol a chanlyniadau’r gwaith adfer.

Bydd y gwaith parhaus hwn yn caniatáu i ni olrhain newid ecolegol hirdymor, mireinio arfer gorau a pharhau i gryfhau’r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer adfer mawndir ucheldir yng Nghymru.

Argaeledd Data

Mae holl setiau data’r prosiect, gan gynnwys y canlyniadau hydrolegol, ecolegol a monitro carbon, ar gael ar gais, ochr yn ochr ag adroddiad llawn yr ecolegydd, a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect.

I gael mynediad at y data neu i holi ynghylch ymwneud â monitro yn y dyfodol, cysylltwch â:

LostPeatlands@npt.gov.uk