Rhwng 2021 a 2025, llwyddodd prosiect Adfer Mawndiroedd Coll De Cymru i adfer dros 240 hectar o fawndir a fu gynt dan goedwigaeth, a thrawsnewid cynefinoedd ucheldir a ddifrodwyd i greu gorgors iach unwaith yn rhagor. Digwyddodd y gwaith hwn ar draws ein tair Ardal Adfer Cynefin (Castell Nos, Cregan a Chwm Saerbren) yn ogystal â 154ha oddi mewn i Ardal Rheoli Cynefin Fferm Wynt Pen y Cymoedd, a gyflwynir mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Vattenfall.
Yn ystod cyfnod datblygu’r prosiect, bu ein hecolegwyr yn cynnal arolygon gwaelodlin helaeth, gan gynnwys asesiadau dyfnder mawn a llystyfiant, a fu’n llywio ein cynlluniau adfer. Cadarnhaodd yr arolygon hyn fod y gorgors mawr, rhyng-gysylltiedig hwn yn cyrraedd dyfnder o hyd at 6m mewn mannau, gyda 2–3m o fawn llawn carbon ar gyfartaledd. Bu plotiau prawf cynnar ym Mhen y Cymoedd o gymorth i fireinio ein technegau adfer, ac roedd y prosiect hefyd yn cael budd o brofiad a rannwyd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach. Oherwydd bod adfer coedwig yn gors yn dal yn arfer sy’n dod i’r amlwg, yn enwedig ar fawn llai dwfn yr ucheldir, mae’r gwaith a gyflwynir yma nawr yn darparu tystiolaeth newydd werthfawr a dysgu ar sail arfer gorau ar gyfer prosiectau’r dyfodol.
Nod ein gwaith adfer oedd codi lefelau’r dŵr ac ailsefydlu’r amodau angenrheidiol i adfer llystyfiant cors. Er mwyn cyflawni hynny, fe wnaethon ni ddefnyddio cyfuniad o dechnegau oedd yn cynnwys creu argaeau yn y mawn, argaeau pren/cyfansawdd, troi bonion a llyfnu’r tir er mwyn gwrthweithio effeithiau draenio coedwigaeth hanesyddol. Ar draws yr holl safleoedd, cafodd miloedd o fetrau o sianeli draenio eu rhwystro gan ddefnyddio mawn a gymerwyd o bydewau benthyg bychain, a leolwyd yn ofalus. Mae’r gwaith yma eisoes wedi golygu bod lefel y dŵr wedi codi’n sylweddol yng Nghastell Nos a Chwm Saerbren, a gwelwyd tueddiadau cadarnhaol yn dod i’r amlwg hefyd yng Nghregan. Ailgyflwynwyd migwyn – y planhigyn allweddol wrth greu corsydd – trwy ddefnyddio dros 60,000 o blanhigion plygio, ac mae’r monitro cynnar yn dangos eu bod wedi ymsefydlu’n ardderchog ac yn tyfu’n dda.
Mae heriau unigryw ynghlwm wrth adfer mawndiroedd mewn ardaloedd a fu gynt yn goedwigoedd, o weddillion tocion a bonion i gyfyngiadau mynediad a’r angen am drefnu amserlenni gofalus yng nghyswllt bywyd gwyllt megis llygod pengron y dŵr ac adar sy’n nythu ar y ddaear. Roedd rheolaeth addasol yn hollbwysig, fel bod modd i dimau maes newid cynlluniau mewn ymateb i gyflwr y ddaear, oedi gyda gweithrediadau cwympo coed oherwydd cyflwr y farchnad, ac ystyriaethau ecolegol ychwanegol. Er gwaethaf yr heriau hyn, cwblhawyd y rhaglen adfer at safon uchel, ac mae’r monitro’n dangos adferiad ecolegol calonogol, gan gynnwys rhywogaethau arbenigol i gorsydd yn ymledu a chynefinoedd llygoden bengron y dŵr yng Nghastell Nos.
Trwy’r gwaith hwn, mae’r prosiect wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ymrwymiadau adfer mawndir y Deyrnas Unedig a thaclo argyfyngau’r hinsawdd a byd natur. Trwy ailwlychu mawn a ddifrodwyd, rydyn ni’n helpu’r cynefinoedd hyn i adennill eu swyddogaeth fel storfeydd carbon tymor hir, gan leihau perygl llifogydd i lawr yr afon, gwella bioamrywiaeth, a gwneud yr ucheldir yn fwy tebygol o wrthsefyll tanau gwyllt a’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y gwersi a ddysgwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd – gan gynnwys hydroleg, llystyfiant, llif nwyon tŷ gwydr ac astudiaethau allforio carbon – yn llywio arfer gorau ledled Cymru a’r tu hwnt am flynyddoedd i ddod.
