Gwirfoddoli gyda’r Mawndiroedd Coll
Ar hyd y prosiect, cyflawnodd gwirfoddolwyr waith hollbwysig yn helpu i reoli ein Mannau Gwyllt Cymunedol a’n Hardaloedd Adfer Cynefinoedd ar draws pen uchaf Cwm Afan a phen uchaf y Rhondda Fawr. Cefnogodd eu cyfraniad waith adfer cynefinoedd, monitro bywyd gwyllt, cofnodi treftadaeth a chyflwyno digwyddiadau cymunedol.
Beth Wnaeth y Gwirfoddolwyr
Cynigiwyd amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli ar draws ardal y prosiect, yn cynnwys:
- Arolygon bywyd gwyllt – cefnogi monitro ecolegol ar adar, ystlumod, llygod pengron y dŵr, llystyfiant a chyflwr y mawndir
- Tasgau cadwraeth ymarferol – yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau, cadw rhywogaethau ymledol dan reolaeth, cefnogi adfer y mawndir, a rheoli ymylon coetir
- Cefnogi digwyddiadau – helpu i gynnal teithiau cerdded tywys, gweithgareddau cymunedol, ymweliadau ysgol a digwyddiadau cyhoeddus
- Cyfraniadau treftadaeth – rhannu gwybodaeth, storïau, enwau lleol ac atgofion am yr ucheldir
Cynhaliwyd sesiynau gwirfoddolwyr ar hyd y flwyddyn, gyda mwy o weithgarwch yn ystod y gwanwyn a’r haf, pryd y cafwyd y prysurdeb mwyaf o ran tasgau adfer a monitro ecolegol.
Ble Digwyddodd y Gwirfoddoli
Ein nod oedd gwneud gwirfoddoli’n hygyrch i gynifer o bobl â phosibl, felly cynhaliwyd sesiynau rheolaidd yn ein Mannau Gwyllt Cymunedol, oedd i gyd wedi’u lleoli mewn cymunedau lleol neu’n agos atynt.
Os oeddent am gael profiad ucheldir go iawn, ymunodd gwirfoddolwyr â ni yn yr Ardaloedd Adfer Cynefinoedd – oedd yn cynnwys Castell Nos, Cwm Saerbren a Chregan — lle buon nhw’n cefnogi adfer mawndir a monitro bywyd gwyllt mewn cyd-destunau mwy pellennig.
Cefnogi Gwirfoddolwyr
Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael croeso ac yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan, darparwyd:
- Yr holl offer a chyfarpar angenrheidiol ar gyfer y tasgau
- Cyfarpar Diogelu Personol (dillad dwrglos, bŵts, menyg) yn ôl y galw
- Costau teithio ar gyfer gwirfoddolwyr oedd yn cefnogi gweithgareddau mewn Ardaloedd Adfer Cynefinoedd pellennig
Roedd cynwysoldeb yn flaenoriaeth bob amser, ac anogwyd pobl o bob cefndir, gallu a lefel profiad i ymuno.
Gwybodaeth Leol a Threftadaeth
Roedd gwybodaeth leol yn amhrisiadwy ar gyfer y prosiect. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned yn rhagweithiol i rannu’r canlynol:
- Atgofion am y tirlun
- Storïau, traddodiadau a defnyddiau yn y gorffennol
- Nodweddion hanesyddol a chysylltiadau teuluol â’r ucheldir
- Mewnwelediad grwpiau lleol neu haneswyr cymunedol
Bu hyn o gymorth i sicrhau bod treftadaeth, traddodiadau a phrofiadau bywyd yr ardal yn cael eu cofnodi a’u dathlu, yn hytrach na’u colli.
Cysylltu â Ni
Os hoffech chi ymwneud â chyfleoedd yn y dyfodol, neu os oes gennych sgiliau, gwybodaeth neu hanesion i’w rhannu am y tirlun lleol, bydden ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
